Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Enwau

Archif, atgof a chân ar y thema Enwau, yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Archif, atgof a chân ar y thema Enwau, yng nghwmni John Hardy:

Elinor Wyn Reynolds yn trafod pam ei bod wedi galw ei phlant yn Caspar Dinoged Chad a Syfi Rhythem ar raglen Aled Hughes yn 2021:

Dwy Cân Y Babis o 2018, o raglen Caryl a Daf ar Radio Cymru 2;

Hanes Neli o Bwllheli, a rhigymau eraill yn ymwneud ac enwau o raglen Enwau Lleoedd o 1983;

Trafod yr arfer o enwi Bechgyn ar ôl eu tad, ac enwi Urien o raglen Enwau'r Cymru o 1973;

Lyn Davies yn sgwrsio am lys enwau;

Dr Sara Louise Wheeler sy'n Onomastegydd yn sôn am enwau strydoedd, enwau ar feddyginiaethau ac am enw mae hi wedi ei atgyfodi;

Rhian Parry yn sôn am ei diddordeb mewn enwau ffermydd a chaeau yn Ardudwy;

Meinir Pierce Jones yn trafod enwau ar dafarndai ac enwau tai yng nghwmni Jon Gower ar y rhaglen Ar Lan y Môr yn 2021;

Siôn Williams, Pysgotwr ym Mhorth Colmon yn sôn am enwau arfordir Penllyn;

Dilwyn Morgan yn sôn am newid enw llong;

Rhonwen yn dweud wrth Nia Lloyd Jones am enwi ei thÅ· yn Watsha Faglu;

Emyr Himyrs Roberts yn rhoi sylw i enwau ei dai e a'i frodyr yn y Felinheli, a Hywel Wyn Owen yn sôn wrth Dei Tomos am enwau Sir y Fflint.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 20 Chwef 2022 14:00

Darllediad

  • Sul 20 Chwef 2022 14:00