Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Mynwentydd Ddoe a Heddiw

Straeon mynwent yw thema Cofio yr wythnos hon. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Straeon mynwent yw’r thema sy’n clymu pigion yr archif yn Cofio yr wythnos hon.

Ymysg y sgyrsiau, cawn glywed gan Tomos Robaitsh, yn ogystal ag atgofion Mynwent gan Perisfab. Y Parch Aelwyn Roberts sy’n esbonio beth oedd Arch y Plwyf, a chawn glywed gan yr Ymgymerwr Annibynnol D H Wyldre, Mawdlam.

Mae ‘na glip o bobl Ynys Môn yn trafod costau claddu, a chawn glywed gan Jason a Sylvia a’i hymdrechion i glirio llanast Mynwent Llanbeblig wrth iddynt siarad ar raglen Aled Hughes yn 2018.

Manon Williams a Louis White sy’n sôn am gychwyn busnes Angladdau o’r enw ‘Enfys’ ar Dros Ginio eleni, a chawn glywed sgwrs gyda’r Parch Sara Roberts am Goedwig Dragwyddol Boduan. Ifor ap Glyn sy’n trafod englynion ar gerrig beddi, mewn clip ‘Cerrig yn Siarad’ o 2021, ac mae Guto Rhys a Gwen Awbery yn sôn am ddechrau grŵp ar Facebook i gasglu englynion cerrig beddi.

Hefyd, sylw i amlosgfa gyntaf Gwlad Groeg yng nghwmni Geraint Curig.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 13 Chwef 2022 14:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Meredydd Evans

    Mynwent Eglwys

    • Mered.
    • Sain.
  • Shân Cothi & Elin Fflur

    Coflaid Yr Angel

Darllediad

  • Sul 13 Chwef 2022 14:00