Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cyfarfodydd

Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy a'r thema heddiw yw cyfarfod neu cyfarfodydd. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Mae Aled Samuel a Rhian Morgan wedi priodi ers dros 30 mlynedd ond digon araf bu'r fflam yn llosgi cyn tanio fel y clywodd Nia Roberts.

Roedd David Dan Jones a'i wraig Sara o Nantgaredig yn dathlu 70 mlynedd o briodas ym 1986. Tybed a oedd y naill neu'r llall yn cofio'r cyfarfod cyntaf?

Fe deithiodd Miriam Kate Williams a William Hedley Roberts y byd fel Atlas a Vulcana. Dylan Iorwerth sy'n egluro mwy.

Un o gymeriadau mwyaf amlwg hanes Cymru yw Owain Glyndŵr. Cafodd sgwrs gyda Bruce Griffiths o du hwnt i'r bedd.

Mae'r pêl-droediwr Wyn Davies yn dipyn o gymeriad. Bu'n sôn wrth T Glynne Davies amdano yn cyfarfod yr aelod seneddol Ted Heath.

Megan Burnell a'i ffrindiau o Fethesda yn trafod clwb pêl-droed Newcastle.

Record enwoca'r ddeuawd Jac a Wil yw Dwed Wrth Mam a ryddhawyd ym 1958 yn dilyn perfformiad yn yr Albert Hall, Jac sy'n esbonio mwy.

Talent arall o Gymru wrth gwrs oedd Ryan Davies ac yn 2007 fe wnaeth ei fab Arwyn Davies ddilyn hanesion ei dad a hynny gyda'r cyn blismon o Gaerfyrddin Ronw James.

Shân Cothi yn sgwrsio gyda Gwen Hopkins am ei chyfarfodydd gyda Goldies Cymru yn llyfrgell Rhydypennau, Caerdydd.

O'r llyfrgell i'r farchnad ac fel y clywodd Harri Parri gan Frank Grundy doedd unlle yn well am gyfarfod cymeriadau na Llangefni ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Sôn am gymeriadau, bu Stifyn Parri yn sgwrsio gyda Dylsi sydd yn aelod ffyddlon o Ferched y Wawr ar ei raglen Aelod o Gymdeithas.

Mae'r actor Mathew Rhys yn fyd enwog erbyn hyn, ond mae hyd yn oed Mathew yn 'star struck' pan mae'n cyfarfod enwogion eraill, fe y bu'n sôn wrth Shelley a Rhydian.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 24 Tach 2021 21:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 21 Tach 2021 14:00
  • Mer 24 Tach 2021 21:00