Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Y Ddaear

"Mae angen bod yn fwy ffeind efo'r ddaear - un blaned sy' gennom ni".

Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Gyda mawrion y byd yn cyfarfod yng Nglasgow ar gyfer Cynhadledd COP 26, y ddaear yw thema'r wythnos.

Yn yr ardd mae Arwel Jones ac Eurig Wyn ac yna cynghorion tyfu llysiau gyda Clay Jones, Glan Morris a Gareth Evans. O'r ardd i'r buarth a hanes Edward Vaughan, Llanerfyl sy'n sôn am arallgyfeirio a throi baw ieir yn drydan i'r grid cenedlaethol gyda threuliwr anaerobig.

Mae ail-gylchu yn air mawr y dyddiau hyn, wrth i ni drio bod yn fwy ffeind efo'r ddaear a dyma hanes busnes ailgylchu LAS sy' wedi ei sefydlu ers 1963 a Tina Morris a'i brawd Mark yw'r drydedd genhedlaeth yn y cwmni teuluol.

Yn ôl y sôn, dim ond ar ein planed ni mae bywyd a dyma Dr Rhodri Evans sydd yn esbonio be sy'n neud ein planed ni yn un arbennig. Does fawr o fywyd lawr yn yr Antartig, ond mi roedd Elgan Lewis yn dathlu Nadolig yno nôl yn 2018.

Hanes anhygoel tsunami a ddigwyddodd yn Nhalsarnau yn 1927 ac Ann Savage sy'n adrodd yr hanes.

Mae llifogydd yn rhywbeth blynyddol bron a bod, a dyma Rebecca Williams yn cofio'r dinistr yn Nhalybont yn 2012 a hanes y gymuned yn dod at ei gilydd i roi cymorth i gymuned arall pan ddaeth y dilyw i Bontypridd a'r Cymoedd yn 2020.

Lle buasem ni heb y gwenyn i beillio ein planhigion a sicrhau fod bwyd ar y bwrdd? Dewch i ni glustfeinio ar Gymdeithas Gwenynwyr Ceredigion.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 10 Tach 2021 21:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 7 Tach 2021 14:00
  • Mer 10 Tach 2021 21:00