Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cantorion Cymru

Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. Cantorion Cymru fydd yn cael y sylw. Another visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Dau o sêr amlyca chwedegau'r ganrif ddiwethaf sy'n dechre'r rhaglen - Tony ac Aloma. Yna o Ynys Môn i Ynyshir, y Rhondda, ac fe glywn hanes Madam Esther Cooper Jones, a oedd yn un o brif unawdwyr gyda’r Ivor Novello Chorus yn Llundain yn y 1930au.

Heather Jones sy'n sôn am ei gyrfa fel aelod o'r grŵp Bara Menyn, Nia Ben Aur ac yn aelod o'r grŵp gwerin Hin Deg. Y soprano Ceinwen Rowlands, a gafodd yrfa ddisglair tu hwnt, sy'n sôn am berfformio ar y llwyfan. Bu'n byw yn y Rhyl ac mi aeth T Glynne Davies draw i'w chartref am sgwrs. Cyfle hefyd i glywed Ceinwen yn canu "Blodau Ger y Drws" gan Meirion Williams. Fe fu farw Ceinwen yn 1983.

Beti George yn cael sgwrs efo Syr Bryn Terfel nôl yn 1988, tra roedd yn ei bedwaredd flwyddyn yn y coleg yn Llundain. Magi Roberts neu Magi Plas fel roedd hi'n cael ei hadnabod, o Benmachno, yn sôn am y grefft o ganu cerdd dant. Roedd hi a'i brawd Ifan yn diddanu cynulleidfaoedd led-led Cymru yng nghanol y ganrif ddiwethaf.

Mam a Merch sydd wedi ennill Cȃn i Gymru ac wedi bod yn fuddugol yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yw Nest Howells ac Elin Fflur a dyma'r ddwy yn trafod eu cerddoriaeth ar y rhaglen Deuawd yn 2008. Yna, clywn hanes T Hayden Thomas, cyn arweinydd Cymdeithas Gorawl Pontarddulais. Dechreuodd arwain y côr yn 1923 a gorffen yn 1978.

Y soprano Fflur Wyn yn talu teyrnged i'r Eisteddfod Genedlaethol a'r Urdd, lle bu'n cystadlu yn gyson ers yn ifanc iawn. Erbyn hyn mae wedi ennill sawl ysgoloriaeth, ond mae'n sôn yma am ei balchder o ennill Ysgoloriaeth Osborne Roberts yn Eisteddfod Dinbych yn 2001.

55 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 11 Tach 2020 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 8 Tach 2020 14:00
  • Mer 11 Tach 2020 18:00