Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Ynysoedd

Archif, atgof a chân yn ymwneud ag ynysoedd yng nghwmni John Hardy. Another visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Mangre ugain mil o saint yw'r ynys gyntaf dan sylw wrth i ni glywed hanes Ifan ac Annie Williams, brawd a chwaer a fagwyd ar Ynys Enlli ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, a'r ddau yn ddisgynyddion i Frenin cynta’ ynys John Williams.

Draw i Ynys Môn wedyn i glywed esboniad o'r dywediad "Gwlad y Medra" ac yna un o drigolion enwocaf Ynys Môn, yr actor a enillodd Oscar yn 1960 am ei ran yn y ffilm Ben Hur, Hugh Griffith, yn cael ei holi gan T. Glynne Davies.

Mae'n siŵr fod gan bawb ei hoff gȃn o’r Hen Ganiadau , a tybed pa un ydi hoff gȃn y cerddor a’r arweinydd cerddorol Alwyn Humphreys?

Taith dramor i'r Ynys Goch, sef Madagascar, lle bu'r Parch Eleri Edwards, Manceinion yn cenhadu a dysgu am 20 mlynedd.

Ar ddechrau'r wythdegau roedd yna ryfel ar Ynysoedd y Malfinas neu Ynysoedd y Falklands wedi i'r Archentwyr lanio ar dir mae Prydain yn ei hawlio. Mae yna gysylltiad wrth gwrs rhwng Cymru ȃ'r Wladfa yn yr Ariannin ac yn 2012 fe fu Geraint Lovgreen yn holi Myrddin ap Dafydd am ei gȃn "Yn Dewach Na Dŵr" a sgwennodd i'r grŵp Plethyn.

Wil Sam Jones yn hel atgofion am Rasus y TT ar Ynys Manaw ac yna Ifor Owen a T. Gwynn Jones yn cofio Dr J R Jones, a anwyd ym Mhandy Mawr, Llanuwchllyn, ond a deithiodd i Hong Kong i weithio. Roedd JR yn athrylith ym myd bancio, yn gyfreithiwr, yn gyrnol yn y fyddin ac yn gynorthwyydd i Lloyd George.

55 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 4 Tach 2020 18:00

Darllediadau

  • Sul 1 Tach 2020 14:00
  • Mer 4 Tach 2020 18:00