Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å

Cofio Pêldroed ar ffurf archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. Another visit to the Radio Cymru archive with John Hardy. We're on the football pitch today!

Gyda'r Ewros yn gorfod aros am flwyddyn arall, Cofio am bêl-droed y gwnawn ni yr wythnos hon yng nghwmni'r sylwebydd, (a'r cyflwynydd) John Hardy! O hel atgofion chwareuwyr fel Jac Evans , Dai Davies, John Charles a'r dyfarnwr Gwyn Pierce Owen i ambell i sioc bod Hywel Teifi yn foi y bêl gron, heb sôn am dalent cudd yr actor Dyfed Thomas oedd yn chwarae i Wrecsam, Crystal Palace a Ashford Town yn ei ddydd.

Beth am y sylwebwyr? Cawn gyfle prin i gylwed R Alun Evans yn trafod dechrau ei yrfa sylwebu tra bod Rhodri Tomos a Morgan Jones yn ymfalchio mewn llwyddiant traws-gyfandirol y rhaglen Sgorio.

Beth am y gwragedd? Jude Cisse sy'n rhoi cip olwg tu hwnt i'r cae pêl-droed.

Ac mae'r bêl gron wedi bod yn destun ar gyfer sawl ffilm, drama a chomedi. Cymeriad doniol Mari Gwilym ac wrth gwrs bechgyn Bryncoch! Mae un o'r awduron Alun Ffred Jones yn rhannu ambell gyfrinach am y cymeriadau. ''Mr Picton!!!!!!!''

55 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 15 Gorff 2020 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 12 Gorff 2020 14:00
  • Mer 15 Gorff 2020 18:00