Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gadael

Archif, atgof a chân ar y thema Gadael yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Gadael yw'n thema ni ar Cofio heddiw. O adael marc gyda dyfeisiadau Syr Clive Sinclaire i adael marc o fath gwahanol wrth glywed hanes y Biro gan Euros Jones Evans. A gadael bu hanes merched Greenham yn y diwedd, wedi iddynt lwyddo yn eu tasg; Jill Evans, Siân Ap Gwynfor a Binnie Jones sy'n rhannu eu profiadau.

I Nigeria yr aeth Eirwen Taylor wrth iddi adael Cymru i weithio gyda'r VSO, tra gadael am Ffrainc y gwnaeth Edward yr Wythfed wrth iddo ildio ei goron er mwyn priodi Wallis Simpson. Adeg yr Ail Ryfel Byd gadael am y Bahamas bu hanes y ddau a Chymro a fu'n eu cwmni sawl tro oedd E Price Williams. Roedd Wallis Simpson wedi ysgaru wrth gwrs, ond beth yw gwir ystyr y gair? Mae Euros Lewis yn esbonio'r tarddiad.

Gadael cartrefi bu hanes sawl cymuned Gymreig wrth i rymoedd fynnu tir ar gyfer cronfeydd dŵr; Richard Rees fu'n teithio'r pentrefi coll hyn yn 1994.

Mae Aled Sam yn mynd i Gaerfyrddin at Tudur Dylan i gael hanes man claddu'r bardd Tudur Aled. A gan aros yng Nghaerfyrddin, Towyn Jones sy'n trafod y rhai sydd ddim yn barod i groesi i'r byd nesa, ie, ysbrydion. Wrth i rai gadael y byd hwn, maent yn gadael eitemau pwysig i'w teuluoedd ac un eitem yn aml yw ffrog briodas, a dyna oedd hanes Catrin Beard a Siân Reeves.

Hefyd, atgofion am gwmni sydd wedi gadael y Stryd Fawr, Woolworth; dwy sy'n cadw'r atgofion yn fyw yw Margaret Jones ac Ann Hughes.

55 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 8 Gorff 2020 18:00

Darllediadau

  • Sul 5 Gorff 2020 14:00
  • Mer 8 Gorff 2020 18:00