Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

¶Ùŵ°ù

Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy, a'r thema yr wythnos hon yw dŵr. Another visit to the Radio Cymru archive. This week we're taking the plunge and discussing water.

Dewch am dro i afonydd a glannau Cymru, wrth i John Hardy drafod pob math o bethau'n ymwneud a dŵr:

Beth ddigwyddodd pan aeth Beti George mewn cwrwgl gyda Bernard Thomas;
John Huws yn holi Billy Scar am bysgota ar afon Nanhyfer;
Betty Davies yn sgwrsio am ddewina dŵr;
Byd chwedlonol Cantre'r Gwaelod sy'n cael sylw Cledwyn Fychan;
Mae Dilwyn Morgan yn holi Bob Thomas, cyn geidwad goleudy mewn sawl ardal oddi ar arfordir Cymru;
Tudur Owen ac Idris Charles sy'n cael hwyl gyda geiriau'n ymwneud a'r testun 'O Dan y Môr a’i Donnau';
Y morwr, hanesydd ac awdur Aled Eames sy'n esbonio i T. Glynne Davies o le ddaeth ei hoffter o’r môr;
Hywel Gwynfryn yn sgwrsio gydag Enoch Williams am redeg fferi ar draws yr Hafren , tan i'r bont agor yn 1966;
Hanes Bill Reynolds ar long a gafodd ei tharo gan dorpedo adeg rhyfel;
A Gwyn Williams yn sgwrsio gyda’r Capten T. Rees Thomas, cyn harbwr feistr Caernarfon, am yr Ordovic, y llong fwyaf a adeiladwyd yng Ngogledd Cymru erioed.

55 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 13 Mai 2020 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 10 Mai 2020 14:00
  • Mer 13 Mai 2020 18:00