Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Pobol Ifanc

Dewch ar daith yn ôl i'ch ieuenctid drwy archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. Another visit to the Radio Cymru archive takes us back to our youth.

Ymhlith y pytiau mae T Glynne Davies yn holi Tomi Scourfield am ei ddyddiau cynnar yn Y Tymbl, a T. Llew Jones yn sôn am ei swyddi amrywiol wedi gadael yr ysgol yn 1933.

Coleg oedd yn mynd a bryd llawer wrth iddynt adael yr ysgol, a doedd Irene Davies ddim gwahanol er mai hyfforddiant athro oedd yr unig opsiwn i ferched ar un adeg – hyd yn oed yn Rhydychen.

Awn am daith i'r dafarn gyda chriw o bobl ifanc o Lanbed, i Brâg gyda Rhodri Tomos, wrth iddo 'godi bac' a chawn wahoddiad arbennig i Ddisgo Dei, tra bod yr hanesydd Catrin Stevens yn trafod hen gerddi ac ofergoelion oedd yn help i chi gwrdd a’ch cariad cyntaf.

Hefyd fel glywn ni Eirwen Bailey, Dennis Wright ac Audrey Boney yn disgrifio bywyd ieuenctid yn ystod y 60au wrth hel atgofion am Milk Bars, Jukeboxes a’r Teddy Boys! A'r Almaenes Helga Beck yn sôn wrth Dewi Llwyd, am dwf yr ‘Hitler Youth’ ac am ei magwraeth yn yr Almaen yn ystod y 40au.

55 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 6 Mai 2020 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 3 Mai 2020 14:00
  • Mer 6 Mai 2020 18:00