Brexit a Waliau
Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod Brexit a waliau ar y ffin. Vaughan Roderick and guests discuss Brexit and border walls.
Wrth i Aelodau Seneddol baratoi i bleidleisio eto, ddeufis union cyn y mae gwledydd Prydain i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd, does dim syndod mai Brexit yw prif bwnc trafod Vaughan Roderick a'i westeion.
Maen nhw hefyd yn pwyso a mesur waliau ar y ffin, fel yr un y mae'r Arlywydd Trump yn dymuno ei gael rhwng America a Mecsico. Mae'r ffrae honno wedi arwain at gau rhannau o Lywodraeth yr Unol Daleithiau am wythnosau, a chyda bron i ddeng mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers dymchwel Wal Berlin, beth yw arwyddocâd ac effaith y muriau yma?
Hefin Mathias, Jo Thomas a Rhys Mwyn sy'n ymuno â Vaughan.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediad
- Gwen 25 Ion 2019 12:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2 & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
Podlediad
-
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos.