Brexit a Deiet y Blaned
Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod Brexit a newid arferion bwyta i achub y blaned. Vaughan Roderick and guests discuss Brexit and changing eating habits to save the planet.
Mae'r bleidlais wedi bod, a'r Prif Weinidog Theresa May wedi cael crasfa go iawn, cyn i fwyafrif aelodau Tŷ'r Cyffredin ddatgan bod ganddyn nhw ffydd yn y Llywodraeth. Mae gan Mrs. May, felly, ychydig ddyddiau i ailfeddwl a chyflwyno cynllun a allai gael sêl bendith, ond mae'n parhau i fynnu y dylai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw gytundeb o gwbl fod yn opsiwn o hyd.
Yn ogystal â thrafod Brexit, mae Vaughan Roderick a'i westeion hefyd yn pwyso a mesur galwad gwyddonwyr am i ni newid ein harferion bwyta, a hynny i achub y blaned. Does dim sôn am waharddiad llwyr ar gic coch a chynnyrch llaeth, ond mae 'na sôn am bethau fel un byrgyr yr wythnos ac un stecen y mis.
Ann Beynon, Elin LlÅ·r ac Alun Hughes sy'n gwmni i Vaughan.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Gwen 18 Ion 2019 12:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2
Podlediad
-
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos.