Main content

Sally Holland

Beti George yn sgwrsio ΓΆ Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru. Beti George chats with Sally Holland, Children's Commissioner for Wales.

Cafodd Sally Holland ei phenodi'n Gomisiynydd Plant Cymru yn 2015.

O’r Alban yn wreiddiol, cwrddodd â Chymro o Gasnewydd wrth weithio gyda phobl ddigartref yn Llundain. Fe briodon nhw, gan benderfynu byw yng Nghymru am gyfnod, ac yna symud i'r Alban. Flynyddoedd yn ddiweddarach, yng Nghymru maen nhw o hyd!

Roedd diddordeb mewn hawliau a chyfiawnder cymdeithasol yn amlwg yn nheulu Sally, a mae hynny wedi dylanwadu'n fawr arni. Roedd un perthynas yn Siartydd, ac yn aelod o'r Rochdale Pioneers a oedd yn gyfrifol am sefydlu'r mudiad cydweithredol.

Y sylweddoliad nad yw'r byd yr un mor deg i bawb sbardunodd Sally i faes gwaith cymdeithasol.

Fel Comisiynydd Plant, mae wedi ymgynghori'n helaeth gyda phlant a phobl ifanc, ac yn angerddol dros roi cyfle iddynt i fynegi barn, ac i gyflawni eu potensial.

Ar gael nawr

49 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 20 Rhag 2018 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Eddi Reader

    My Love is Like a Red Red Rose

    • Eddi Reader Sings The Songs Of Robert Burns.
    • Beggars Banquet Records Ltd.
    • 1.
  • Billy Bragg

    Waiting For The Great Leap Forwards

    • Hang The DJ: Modern Rock 1988.
    • Cooking Vinyl Limited.
    • 3.
  • The Proclaimers

    I'm Gonna Be (500 Miles)

    • Now 13, Part 2 (Various Artists).
    • Now.
  • Wigwam

    Gwranda Ar Yr Afon

    • Coelcerth.
    • Recordiau JigCal Records.
    • 8.

Darllediadau

  • Sul 16 Rhag 2018 12:00
  • Iau 20 Rhag 2018 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad