Main content

Steffan Lewis

Beti George yn sgwrsio gyda'r Aelod Cynulliad Steffan Lewis. Beti George chats with Welsh Assembly Member Steffan Lewis.

Steffan Lewis oedd yr Aelod Cynulliad ifancaf yng Nghymru pan gafodd ei ethol i gynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru yn 2016.

Mae’n dweud na all ddychmygu bywyd heb wleidyddiaeth, ar ôl i'w ddiddordeb yn y maes ddechrau pan oedd yn ifanc.

Yn un ar ddeg oed, roedd yn sgwennu at Dafydd Wigley yn NhÅ·'r Cyffredin, ac yn bedair ar ddeg anerchodd Plaid Cymru am y tro cyntaf.

Roedd gwleidyddiaeth hyd yn oed yn ddylanwad wrth ddewis pa dîm pêl-droed i'w gefnogi.

Ddiwedd 2017, cafodd Steffan wybod fod ganddo ganser y coluddyn, a hynny yn ei bedwerydd cyfnod, ac wedi lledaenu i rannau eraill o’r corff.

Mae'n sôn wrth Beti am y diagnosis, am y gefnogaeth fawr y mae wedi ei derbyn, ac am ei ddyhead i godi ymwybyddiaeth o'r salwch.

Ar gael nawr

47 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 14 Chwef 2019 18:00

Clip

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • The Dubliners

    The Fields Of Athenry

    • Live from the Gaiety.
    • ZYX Music.
  • Tebot Piws

    Blaenau Ffestiniog

    • Y Gore A'r Gwaetha - Tebot Piws.
    • SAIN.
    • 5.
  • Zombie Nation

    Kernkraft 400

    • Pete Tong Essential Classics CD2.
    • 13.
  • Catatonia

    International Velvet

    • International Velvet.
    • Warner Music UK Limited.
    • 7.

Darllediadau

  • Sul 9 Rhag 2018 12:00
  • Iau 13 Rhag 2018 18:00
  • Sul 10 Chwef 2019 12:00
  • Iau 14 Chwef 2019 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad