Theresa May, Brexit a Mark Drakeford
Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod Theresa May, Brexit a Mark Drakeford. Vaughan Roderick and guests discuss Theresa May, Brexit and Mark Drakeford.
Mae Theresa May yma o hyd, ond beth nesaf i'r Prif Weinidog a Brexit? Ar ôl iddi ohirio pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin ar ei chytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd, aeth ymlaen wedyn i ennill pleidlais o ffydd yn ei harweinyddiaeth gan yr Aelodau Seneddol Ceidwadol, sydd bellach yn gwybod nad hi fydd prif gynrychiolydd eu plaid yn yr etholiad cyffredinol nesaf. A fydd hi'n sicrhau newidiadau i'r cytundeb, gan sicrhau digon o gefnogaeth yn Nhŷ'r Cyffredin yn y Flwyddyn Newydd, ynteu ai gohirio'r anochel wnaeth hi?
Yng nghanol hyn i gyd, cafodd Mark Drakeford ei ethol yn Brif Weinidog Cymru, ac yn ôl ystadegau newydd mae'r wlad unwaith yn rhagor yn perfformio'n waeth yn economaidd nag unrhyw wlad neu ranbarth arall ym Mhrydain. Ai adfywio'r economi fydd y sialens fwyaf iddo?
Bethan Sayed, Heddyr Gregory a Dr. Edward Jones sy'n ymuno â Vaughan Roderick.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediad
- Gwen 14 Rhag 2018 12:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2
Podlediad
-
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos.