Brexit a Mark Drakeford
Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod Brexit a Mark Drakeford yn arwain Llafur Cymru. Vaughan Roderick and guests discuss Brexit and Mark Drakeford leading Welsh Labour.
Ychydig ddyddiau cyn y bleidlais fawr yn San Steffan, mae Theresa May yn parhau i fynnu taw'r cytundeb presennol gyda'r Undeb Ewropeaidd yw'r unig ateb i'r holl gwestiynau am Brexit, ond a fydd hi'n sicrhau digon o gefnogaeth yn Nhy'r Cyffredin? Os na, beth wedyn?
Mae Vaughan Roderick a'i westeion hefyd yn trafod Mark Drakeford yn cael ei ddewis i arwain Llafur Cymru, a dod yn Brif Weinidog Cymru yn y broses, fwy na thebyg. Gyda grymoedd newydd dros dreth incwm ar fin cael eu trosglwyddo i Gymru, a thrafodaethau ar ffordd osgoi'r M4 ar y gweill, mae ganddo ddigon ar ei blât.
Suzy Davies, Jonathan Edwards a Jon Owen Jones sy'n ymuno â Vaughan.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Gwen 7 Rhag 2018 12:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2
Podlediad
-
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos.