Main content

Gladys Pritchard

Beti George yn sgwrsio ΓΆ Gladys Pritchard, Trysorydd Eisteddfod MΓ΄n. Beti George chats with Gladys Pritchard, Treasurer of the Anglesey Eisteddfod.

Monwysyn i'r carn yw Gladys Pritchard. Wedi ei geni a'i magu yng Nghaergybi, mae'n parhau i fyw yn yr ardal, a hi yw Trysorydd a Meistres y Gwisgoedd Eisteddfod MΓ΄n.

Er na chafodd Gladys erioed 10 allan o 10 mewn gwersi mathemateg, cadw cyfrifon a llaw fer oedd yn mynd ΓΆ'i bryd yn yr ysgol.

Pan adawodd yr ysgol, aeth i weithio fel clerc i gyfrifydd yng Nghaergybi, a dyna sydd wedi llunio cyfeiriad ei bywyd hyd heddiw.

Wedi cyfnod yn magu ei meibion, aeth i Ysgol Uwchradd Caergybi fel derbynnydd, ac yna fel swyddog gweinyddol, gan gymryd cyfrifoldeb am gyfrifon yr ysgol.

Pan ddaeth Eisteddfod MΓ΄n i Gaergybi yn 1979, pwy well i fod yn drysorydd, gan barhau yn y swydd honno hyd heddiw.

Mae Gladys hefyd yn weithgar gyda mudiad y Sgowtiaid ers 1979, gan ddechrau cyrsiau canΕµio ar eu cyfer yn Y Bala ac yn Islwyn.

Er nad oes ganddi fawr o amser rhydd, mae'n frodwraig brwd ac yn 'yarn bomber'.

Ar gael nawr

45 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 17 Mai 2018 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Takako Nishizaki & Wolf Harden

    Largo (Ombra Mai Fu) From Serse

    • Romantic Violin Favourites.
    • 4.
  • Dafydd Iwan

    Esgair Llyn

    • Dal I Gredu.
    • SAIN.
    • 6.
  • John Owen-Jones

    Adre'n Γ”l

    • ANTHEM FAWR Y NOS.
    • SAIN.
    • 2.
  • Cantorion Cynwrig

    Craig Yr Oesoedd / Arglwydd Iesu Arwain F'enaid - In Memoriam

    • Emynau Caradog Roberts.
    • Sain.
    • 10.

Darllediadau

  • Sul 13 Mai 2018 12:00
  • Iau 17 Mai 2018 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad