Main content

Siân Lewis

Beti George yn sgwrsio â Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru. Beti George chats with Siân Lewis, Chief Executive of Urdd Gobaith Cymru.

Beti George yn sgwrsio â Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.

Dychwelyd at yr Urdd wnaeth Siân, wedi cyfnod yn gweithio gyda'r mudiad ar ddechrau'r 90au, ac mae'n disgrifio'r rôl fel swydd ei breuddwydion, er bod dychwelyd i Wersyll Glan-llyn fel aelod o staff yn hytrach na disgybl ysgol yn brofiad rhyfedd.

Cafodd ei magu yng Nghaerdydd, a dyw hi ddim wedi crwydro'n bell iawn o'r brifddinas.

Er ei bod wrth ei bodd yn gymdeithasol yn Ysgol Glantaf, doedd y pwyslais academaidd ddim yn plesio.

Ailddarganfyddodd ei hoffter o fyd addysg yng Ngholeg Rhymni, cyn symud i Brifysgol Morgannwg i astudio busnes, ac yna cwblhau cwrs ôl-radd mewn busnes a chyllid.

Wedi ei chyfnod cychwynnol yn gweithio i'r Urdd, symudodd i Fenter Caerdydd, a thra wrth y llyw yno roedd yn gyfrifol am ddatblygu gŵyl Tafwyl.

Gyda throsiant o £10 miliwn, dros 300 o staff, a hefyd 10,000 o wirfoddolwyr, beth yw gobeithion Siân ar gyfer dyfodol yr Urdd?

Ar gael nawr

46 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 3 Mai 2018 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • John Denver

    Annie's Song

    • John Denver - Rocky Mountain Coll'n.
    • RCA.
  • Yws Gwynedd

    Pan Ddaw Yfory

    • Y TEIMLAD.
    • 1.
  • Meic Stevens

    Cyllell Trwy'r Galon

    • Gitar Yn Y Twll Dan Star.
    • SAIN.
    • 4.
  • Datblygu

    Cân I Gymry

    • Libertino.
    • Ankst.
    • 4.

Darllediadau

  • Sul 29 Ebr 2018 12:00
  • Iau 3 Mai 2018 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad