Main content

Robert David

Beti George yn sgwrsio gyda'r cynllunydd mewnol Robert David. Beti George chats to interior designer Robert David.

Ganwyd y cynllunydd mewnol Robert David yn 1962 cyn cael ei fabwysiadu yn ychydig wythnosau oed gan Owen Morris Roberts a Mary Roberts, Penrhynydyn, Rhydyclafdy.

Cafodd fagwraeth fendigedig ar fferm brysur ond celf oedd yn mynd a'i sylw, er mai dewis dilyn cwrs Celfyddydau Perfformio ym mhrifysgol CaerlΕ·r wnaeth Robert i ddechrau, cyn symud i Gaerdydd ac ymddangos fel actor mewn cyfresi fel Coleg a Dinas.

Roedd Robert yn aelod o gast Pobol y Cwm yn y 90au ond ar Γ΄l hir feddwl dyma benderfynu gadael y ddrama a dilyn ei freuddwyd i fod yn gynllunydd mewnol. Symudodd i Efrog Newydd i astudio, gan dderbyn Tystysgrif mewn Cynllunio o'r Parsons School of Design, Manhattan.

Cafodd gyfnod wedyn yn adnewyddu tai ar raglenni teledu ond mae bellach yn Γ΄l yn LlΕ·n, yn byw gyda'i bartner ac wedi sefydlu ei gwmni cynllunio mewnol ei hun.

Ar gael nawr

50 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 8 Chwef 2018 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Edward H. Dafis

    Mistar Duw

    • Caneuon Heddwch.
    • SAIN.
    • 5.
  • Bryn FΓ΄n a'r Band

    Y Bardd O Montreal

    • Y Goreuon 1994 - 2005.
    • LABELABEL.
    • 17.
  • Frank Sinatra

    Theme From New York, New York

    • Frank Sinatra - The Reprise Years.
    • Reprise.
  • Spandau Ballet

    Gold

    • The Gold Album (Various Artists).
    • The Hit Label Ltd.

Darllediadau

  • Sul 4 Chwef 2018 12:00
  • Iau 8 Chwef 2018 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad