Main content

Manon Steffan Ros

Beti George yn sgwrsio gyda'r awdur Manon Steffan Ros. Beti George's guest is the author Manon Steffan Ros.

Ganed Manon Steffan ym mhentref Rhiwlas ger Bangor a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Rhiwlas ac yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Fe enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwy flynedd yn olynol, yn 2005 ac yn 2006. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Fel Aderyn, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010, ac fe ddaeth Manon i'r brig yn y gystadleuaeth yn 2013 gan ennill y categori ffuglen orau gyda'i nofel Blasu. Enillodd Wobr Tir na n-Og hefyd yn 2010 am y nofel Trwy'r Tonnau, ac unwaith eto yn 2012 gyda Prism. Mae Manon hefyd yn gerddor ac aelod o'r grΕµp Blodau Gwyllt, ac mae'n byw yn Nhywyn gyda'i meibion.

Ar gael nawr

45 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 30 Awst 2018 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Sobin a’r Smaeliaid

    Mardi-gras Ym Mangor Ucha'

    • Goreuon.
    • Sain.
    • 5.
  • Cowbois Rhos Botwnnog

    Llanw Ucha Erioed

    • Draw Dros y Mynydd.
    • SBRIGYN YMBORTH.
    • 7.
  • Gerry and the Pacemakers

    You'll Never Walk Alone

    • The Greatest Hits Of 1963.
    • Premier.

Darllediadau

  • Sul 28 Ion 2018 12:00
  • Iau 1 Chwef 2018 18:00
  • Sul 26 Awst 2018 12:00
  • Iau 30 Awst 2018 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad