Y Blew yn Y Bala
Rhys Gwynfor gyda hanes Y Blew yn dod â roc a rôl i'r Eisteddfod am y tro cyntaf erioed. The story of Y Blew bringing rock and roll to the Eisteddfod for the first time ever.
Cyn i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â'r Bala ym mis Awst 1967, roedd adloniant Cymraeg yn golygu nosweithiau llawen a chanu acwstig mewn cyngherddau gwaraidd. Yna, daeth roc a rôl i faes y brifwyl am y tro cyntaf erioed.
Mae llawer wedi ei gofnodi am berfformiad Y Blew yn y Babell Lên - llawer ohono'n negyddol - ond beth yw'r gwirionedd?
Yn y rhaglen hon, mae Rhys Gwynfor yn ceisio deall beth oedd yr union amgylchiadau.
Yn ogystal â holi ei daid, Elfyn Pritchard, am sut yr aeth o a Geraint Bowen ati i drefnu perfformiad sydd bellach yn cael ei ystyried yn drobwynt yn natblygiad cerddoriaeth Gymraeg, mae hefyd yn clywed gan rai o'r bobl a oedd yno i weld a chlywed y cyfan. A oedden nhw, tybed, yn sylweddoli y byddai perfformiad Y Blew yn Y Bala yn cael ei drafod ddegawdau yn ddiweddarach?
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Gwen 4 Awst 2017 12:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
- Sul 29 Hyd 2017 16:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
- Gwen 29 Rhag 2017 18:30Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru