Main content
Dyw'r rhaglen yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Meddwl Am Dad

Ar Γ΄l colli ei dad yn 2015, Stephen Hughes sy'n holi pam fod nifer o bobl ΓΆ chywilydd o broblemau iechyd meddwl. A look at the stigma affecting mental health problems.

Yn delio'n rheolaidd ΓΆ straeon trist ac ystadegau brawychus, mae'r newyddiadurwr Stephen Hughes yn mynd ar daith bersonol ac emosiynol iawn yn y rhaglen hon.

Ym mis Medi 2015, fe newidiodd bywyd Stephen a'i deulu yn llwyr wedi i'w dad, Elfed, ei ladd ei hun ar ei fferm. Daeth y teulu'n rhan o ystadegyn na wnaethon nhw erioed ei ddychmygu, sef nifer yr hunanladdiadau yn y flwyddyn honno.

Mae Stephen yn holi pam fod nifer o bobl ΓΆ chywilydd o broblemau iechyd meddwl. Gydag ystadegau'n awgrymu ei bod hi'n broblem gynyddyol, pam nad ydym fel cymdeithas yn trafod y cyflwr hwn yn gwbl agored a chyhoeddus? A fyddai gwneud hynny'n chwalu'r stigma, ac yn ei dro yn helpu'r dioddefwyr tawel i siarad a chael cymorth?

Gall rhywfaint o'r cynnwys beri gofid. Os hynny, a'ch bod yn chwilio am gefnogaeth neu gyngor, cysylltwch ΓΆ Radio Cymru ar 03703 500 600 am ragor o wybodaeth.

40 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 28 Mai 2018 17:20

Clip

Darllediadau

  • Iau 11 Mai 2017 12:20
  • Llun 28 Mai 2018 17:20