Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Y Gyllideb a Charchardai Mawr

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod Cyllideb y Canghellor Philip Hammond, ac effeithioldeb carchardai fel Carchar y Berwyn. Vaughan Roderick and guests discuss the Budget.

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod Cyllideb y Canghellor Philip Hammond, yn arbennig y cynnydd yn nhaliadau Yswiriant Gwladol pobl hunangyflogedig.

Wedi i Garchar y Berwyn yn Wrecsam agor ei ddrysau, dyma drafod pa mor effeithiol yw carchardai mawr. Ai carcharu yw'r ateb i droseddwyr?

Ac mae nifer o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar ymddiriedolaethau bywyd gwyllt i beidio â lladd wiwerod llwyd. Maen nhw'n chwilio am wirfoddolwyr i helpu i warchod y wiwer goch, ond ai difa wiwerod llwyd yw'r ateb?

Alun Michael, Gwenda Richards a Harri Lloyd Davies sydd yn ymuno â Vaughan.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 10 Maw 2017 12:00

Darllediad

  • Gwen 10 Maw 2017 12:00

Podlediad