Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Ford a Phrifysgolion

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod yr ofnau am hyd at 1,160 o swyddi ym Mhen-y-bont, a daliadau gwleidyddol academyddion mewn prifysgolion. Political discussion.

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod yr ofnau am gael gwared â hyd at 1,160 o swyddi yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a dyfodol yr economi yn ehangach yn sgîl Brexit.

Trafodaeth hefyd ar brifysgolion, wrth i adroddiad gan Sefydliad Adam Smith ddweud eu bod yn llawn academyddion sydd yn ffafriol i wleidyddiaeth yr adain chwith. Yn ôl yr adroddiad, gallai cymaint o gefnogaeth i'r chwith ei gwneud hi'n anodd i brifysgolion ddenu arian gan lywodraeth geidwadol. Mae 'na bryderon hefyd am yr effaith bosib ar ryddid barn.

Ac wrth i Theresa May roi'r gorau i fwyta creision halen a finegr dros gyfnod y Grawys, beth am y panelwyr? Beth, os unrhyw beth, maen nhw'n ceisio ei osgoi?

Elizabeth Evans, Elwyn Jones a Heledd Bebb sydd yn ymuno â Vaughan.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 3 Maw 2017 12:00

Darllediad

  • Gwen 3 Maw 2017 12:00

Podlediad