Cyflwr y Byd a Bancio ar y Stryd Fawr
Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod cyflwr ein byd, a dyfodol bancio ar y stryd fawr. With so much going on these days, Vaughan and guests discuss the state of the world.
Mae hi wedi bod yn wythnos arall yn llawn penawdau o'r Unol Daleithiau, o ymddiswyddiad ymgynghorydd diogelwch gwladol yr Arlywydd Trump i honiadau yn y New York Times bod staff Mr Trump wedi bod mewn cysylltiad cyson gyda Rwsia yn ystod yr ymgyrch arlywyddol. Newyddion ffug yw hynny, yn ôl Mr Trump. Yn yr un wythnos, mae'n ymddangos bod brawd arweinydd Gogledd Corea wedi cael ei wenwyno mewn ymosodiad yn Malaysia, a gwasanaethau cudd De Corea'n credu mai swyddogion o Pyongyang oedd yn gyfrifol. Beth mae'r ddwy stori yn ei ddweud am gyflwr ein byd?
Mae Lloyds, HSBC a NatWest i gyd wedi cyhoeddi cynlluniau dros y misoedd diwethaf i gau canghennau yng Nghymru. Maen nhw'n dadlau fod nifer yr ymwelwyr yn gostwng, wrth i bobl ddefnyddio gwasanaethau arlein. Beth, felly, sydd gan y dyfodol ar gyfer bancio ar y stryd fawr?
Ac wedi 75 mlynedd o ddarlledu Caniadaeth y Cysger, rhaglen radio hynaf y Gymraeg, mae'r panel yn trafod apêl canu emynau.
Russell Isaac, Rhun ap Iorwerth a Dr Elin Jones sy'n ymuno â Vaughan Roderick.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Darllediad
- Gwen 17 Chwef 2017 12:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
Podlediad
-
Gwleidydda
Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos.