Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

TÅ·'r Arglwyddi a Iechyd Meddwl

Vaughan Roderick a'i westeion yn trafod TÅ·'r Arglwyddi a iechyd meddwl. Vaughan Roderick and guests discuss the House of Lords and mental health.

Wedi i Aelodau Seneddol bledleisio o blaid trafodaethau ffurfiol ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae Mesur Brexit nawr yn mynd gerbron yr Arglwyddi. Yn ôl aelod o'r Llywodraeth, fe fydd yna alw am ddiddymu'r tŷ anetholedig os na fyddan nhw'n cefnogi penderfyniad Tŷ'r Cyffredin. Sylw teg, neu a yw'r broses o gael yr Arglwyddi i graffu ar bethau yn rhan hollbwysig o ddeddfwriaethu?

Mae ystadegau diweddar yn rhybuddio fod un o bob pedwar person yn debygol o fod â phroblemau iechyd meddwl yn ystod eu bywyd. Yn ôl ymchwil a gafodd ei gyhoeddi gan ymgyrch Amser i Newid, mae agweddau pobl tuag at broblemau iechyd meddwl yn fwy positif nag y buon nhw, ond a oes rhagor o waith i'w wneud?

Mae 'na ddiwrnod i bopeth erbyn hyn - diwrnod y pizza, diwrnod hen bethau, a hyd yn oed diwrnod yr ymbarél. Petae'r panelwyr yn cael dewis diwrnod i ddathlu un peth arbennig, beth fyddai hynny tybed?

Catrin Gerallt, Andrew Tamplin a Siôn Jones sy'n ymuno â Vaughan Roderick.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 10 Chwef 2017 12:00

Darllediad

  • Gwen 10 Chwef 2017 12:00

Podlediad