Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Lowri Roberts

Dau fusnes am bris un wrth i Lowri Roberts drafod ei chwmni cyfieithu a'i siop yng Nghroesoswallt. Gari chats to Lowri Roberts about her translation company and shop in Oswestry.

Mae Gari'n cynnig bargen i ni yn y rhaglen hon, sef dau fusnes am bris un.

Fe agorodd Siop Cwlwm yn hen farchnad Croesoswallt yn 2010, a Lowri Roberts a'i mham Linda sy'n gyfrifol amdani. Ai dyma'r unig siop Gymraeg yn Lloegr, tybed? Yn sicr, mae Lowri'n frwd dros chwifio'r Ddraig Goch yr ochr arall i'r ffin, ac yn teimlo'n gryf iawn dros gael Cymreictod yng Nghroesoswallt a Sir Amwythig.

Lowri sydd hefyd yn gyfrifol am gwmni cyfieithu Trosi Tanat. Ychydig cyn sgwrsio â Gari, cafodd £2,500 ar gyfer y busnes a gwerth £5,000 o hyfforddiant gan gymdeithas IPSE.

Wrth rwydweithio a chydweithio, mae'r ddau fusnes yn cydgryfhau. Er hynny, mae Lowri'n pwysleisio na ddylai'r ffin ieithyddol ddilyn y ffin ar y map, ac mae'n mawr obeithio y bydd llefydd fel Crosoeswallt yn cael rhagor o gefnogaeth o Gymru yn y dyfodol.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 21 Tach 2016 12:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Gari Wyn

Darllediad

  • Llun 21 Tach 2016 12:00

Podlediad Rhaglen Gari Wyn

Gari Wyn a'i olwg unigryw ar fyd busnes, mentergarwch a Chymreictod.

Podlediad