Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cai Erith Williams

Sgwrs gyda Cai Erith Williams o ABerdaron am ei waith fel ail is-gapten ar long enfawr MPI Adventure. Gari chats to Cai Erith Williams from Aberdaron, second mate on MPI Adventure.

Mae'r môr yn rhan annatod o fywyd unrhyw un sydd wedi'i fagu yn Aberdaron, ond peth arall ydi ennill eich bywoliaeth ar y môr.

Cai Erith Williams o Aberdaron ydi'r ail is-gapten ar long enfawr MPI Adventure, sy'n cael ei defnyddio i adeiladu melinau gwynt o fewn sector Almaenig Môr y Gogledd. Mae'n golygu bod oddi cartref am bedair wythnos yn olynol, gan weithio shifftiau hir, ac mae'n dipyn o gyfrifoldeb. Er hynny, mae'n amlwg wrth iddo sgwrsio â Gari nad yw'n gadael i'r fath gyfrifoldeb ei boeni'n ormodol.

Mae'n sôn hefyd am ei hanes cynnar fel morwr, gan gynnwys bod ar long bleser Hebridean Princess.

Dyma faes cymhleth a dieithr i'r mwyafrif ohonom, ond mae Cai yn gwneud i'r cyfan ymddangos yn gwbl ddiffwdan.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 14 Tach 2016 12:00

Darllediad

  • Llun 14 Tach 2016 12:00

Podlediad Rhaglen Gari Wyn

Gari Wyn a'i olwg unigryw ar fyd busnes, mentergarwch a Chymreictod.

Podlediad