Manylu: Gweithio am ddim?
Dim ond 1 o 10 sy’n gwirfoddoli. Ydy’r llywodraeth wedi methu creu Cymdeithas Fawr?
Mae nifer cynyddol o gymunedau yn wynebu colli adnoddau sylfaenol fel llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden oherwydd toriadau ariannol y Llywodraeth. Mae pwysau ar wirfoddolwyr i ysgwyddo’r baich o’u rhedeg – ond pa mor deg ydy gofyn i bobl weithio am ddim?
Mae’n bedair blynedd ers i'r prif weinidog David Cameron alw am sefydlu'r gymdeithas fawr - "The Big Society". Y bwriad oedd cael unigolion i redeg nifer o wasanaethau cymunedol fel rhan o’r arbedion ariannol oedd y Toriaid am wneud er mwyn cael Prydain allan o ddyled. Ond yn ôl ymchwil diweddar, dim ond un mewn deg ohonom sydd yn cymeryd rhan mewn gweithgaredd gwirfoddol. Wrth i'r toriadau ariannol frathu - ydy gofyn i unigolion ysgwyddo'r baich yn gweithio? Mi fydd Manylu’r wythnos hon yn ymweld â grwpiau ac unigolion sydd yn rhedeg nifer o weithgareddau yn wirfoddol, ac yn siarad â rhai sydd yn pryderu am ddyfodol adnoddau lleol yn eu hardal nhw.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Clip
Darllediad
- Mer 27 Tach 2013 14:04Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.