Cyngherddau Digidol Â鶹ԼÅÄ NOW
Croeso
Gwyliwch ein cyfres o berfformiadau digidol i fwynhau Â鶹ԼÅÄ NOW o gysur eich cartref.
Mae ein cyngherddau digidol wedi cael eu ffilmio yn Neuadd Hoddinott y Â鶹ԼÅÄ ac ar gael i chi eu mwynhau ar adeg sy’n gyfleus i chi, ble bynnag sy’n gyfleus i chi. Gallwch wylio gartref drwy deledu clyfar, drwy ddyfais symudol pan fyddwch chi allan, neu hyd yn oed yn teithio ar fws neu drên. Ein cerddoriaeth ni ar eich telerau chi...
Bydd y perfformiadau agos atoch hyn yn gyfle i chi fwynhau’r gerddorfa mewn ffordd unigryw a mwy personol. Cofiwch ddysgu rhagor am y gerddoriaeth sy’n cael ei pherfformio drwy’r nodyn yn y rhaglen ar bob darn.
Mae’r Gyfres o Gyngherddau Digidol wedi cael ei threfnu o amgylch ein gweithgareddau byw, felly edrychwch ar ein dyddiadur cyngherddau i weld yr holl ddyddiadau sydd ar y gweill ac yna eisteddwch yn ôl a mwynhau amrywiaeth o ddarnau cerddorfaol hyfryd.
Ail-lansio Tymor 2024-25
-
Nocturnes gan Debussy
Gyda’i ‘Nuages’ dirgel a darostyngol yn efelychu’r awyr a’r cymylau, i ‘Fêtes’ afieithus a ‘Sirènes’ hudolus, mae Nocturnes coeth Debussy yn ddechrau cerddorol perffaith i’r Flwyddyn Newydd. - Ar gael 7.30pm 2 Ionawr.
-
Faubourg 23 gan Fiona Monbet
Gan ddechrau yn hen Baris gyda’i naws Faubourg, wedi’i gonsurio gan walts a chyfeiriadau at Edith Piaf a Joséphine Baker, mae ‘faubourg’ hefyd yn cyfeirio at yr hyn sydd y tu hwnt i furiau’r ddinas, y tu hwnt i’w ffiniau. Mae Faubourg 23 gan Fiona Monbet yn dod â’r bydoedd, neu’r bydoedd gwahanol iawn hyn sydd heb eu dyfeisio at ei gilydd.
-
Concerto for Orchestra gan Bartók
Darn arddangos lliwgar, ac mae’n debyg y mwyaf poblogaidd o weithiau cerddorfaol Bartók, y Concerto i Gerddorfa a berfformir gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ gyda’r arweinydd arobryn Giancarlo Guerrero. - Ar gael 7.30pm 17eg Hydref.
Perfformiadau Blaenorol
-
Premiere Byd - Waves of Love gan David Roche
Mae Waves of Love yn waith cyflym, uchel ei sŵn sy’n codi calon. Fel cerddor roc a metel wrth ei graidd, mae sŵn mawr, riffs taer a’r awydd i deimlo’n gyffrous yn eistedd wrth wraidd popeth y mae David yn ei ysgrifennu. Mae'r darn hwn yn dyst i hynny.
-
Symphonies of Wind Instruments gan Stravinsky
Mae fel rhyw draethawd cyfansoddi ar sut i osod chwythbrennau ac offerynnau pres y gerddorfa yn haenau mewn ffyrdd trawiadol a lliwgar. Mae wedi’i lunio o flociau o sain sy’n cyferbynnu’n fawr, sydd yn aml yn eithaf statig a moel eu heffaith.
-
L'Aurore gan Ravel
Mae’r darn byr hwn ar gyfer tenor unigol, côr cymysg a cherddorfa yn rhagori ar gerdd ddiflas gan awdur dienw gyda chyffyrddiadau offerynnol dychmygus a gweadau symudliw; adeiladu hyd at uchafbwynt dramatig a gorffen mor sydyn ag y dechreuodd.
-
Limina gan Helen Grime
Er bod rhai newidiadau amlwg, mae cyflyrau cerddorol yn aml yn haenog ac yn asio â'i gilydd, gan adael y gwrandäwr yn gytbwys, fel petai, yn union ar ffin gyfyngol yn Limina Helen Grime.
-
Concerto i'r Fiola gan John Woolrich
Cylch o saith cân llwm a chyffrous - heb eiriau - yn Concerto Viola John Woolrich mae'r fiola yn canu, ac mae'r gerddorfa'n adleisio ei chân mewn lliwiau meddal a thyner yn bennaf.
-
Ma Mere l'Oye gan Ravel
Mae sgôr befriol Ravel i Ma Mère l’Oye yn darlunio cymeriadau chwedlau tylwyth teg drwy gerddoriaeth. O'r Dywysoges Hir ei Chwsg i Belle a’r Bwystfil, Twm Bawd a Laidronette, mae’r bale’n cyfleu’r cymeriadau’n fywiog gyda’r gwaith cerddorfaol beiddgar a dyfeisgar.
-
Epilog zu Rosamunde gan Schwertsik
Mae alawon hir ar y llinynau’n uno a churiadau llyfn, ac mae’r hen a’r newydd yn ymchwyddo’n ddramatig i greu prydferthwch gan gydnabod Schubert yn y cyngerdd digidol yr wythnos yma – Epilog zu Rosamunde gan Schwertisk.
-
Concerto i'r Ffidil gan Michael Zev Gordon
Gwnewch eich hunain yn gyfforddus i wrando ar archwiliad llawn naws o soniaredd feiolinau a lleisiau yn y cyngerdd digidol yr wythnos yma. Mae Carolin Widmann a Â鶹ԼÅÄ NOW yn perfformio’r consierto i’r ffidil gan Michael Zev Gordon, sy’n arddangos mynegiant dwfn, dawns benrhydd a hunanymholiad.
-
Vieille priere bouddhique gan Boulanger
Mae’r thema o gyfeillach fyd-eang yn cael ei chyfleu drwy gyfieithiad Ffrangeg o hen weddi Fwdhaidd i gorawl sy’n syml ac yn uniongyrchol. Mae’r cyffyrddiadau moddol yn awgrymu tarddiad y testun, ac mae’n cynnwys un o’r unawdau ffliwt mwyaf ecsotig a llawn cymeriad yn y repertoire. Vieille priere bouddhique Lili Boulanger yw cyngerdd digidol cyntaf Â鶹ԼÅÄNCW!
-
Romanian Folk Dances gan Bartók
Mae dyfeisgarwch cyfareddol yn cymryd esgyrn sychion y melodïau gwerin traddodiadol, ac yn ymgorffori hwyl fywiog y ddawns yn y cyngerdd digidol yr wythnos hon.
-
Premiere Byd - The Master Said gan Alexander Goehr
Mae The Master Said gan Alexander Goehr, sydd wedi cael ei enwebu am wobr RPS, yn edrych ar arferion dysgu ac addysgu Confucius, sy’n cael ei leisio yn y gwaith diddorol hwn gan yr actor eiconig o Gymru, Mark Lewis Jones.
-
Premiere Byd - Parallax gan Joseph Davies
Yn y darn hwn mae'n ymddangos bod deunyddiau tebyg yn symud ar wahanol gyfraddau ar yr un pryd, fel petaent ar bellteroedd amrywiol oddi wrth y gwrandäwr - yn union fel ffenomen Parallax.
-
Humoresque gan Dvořák
Mae Humoresque gan Dvořák yn ddarn hynod boblogaidd sy’n cyfuno sain dawnsio hwyliog a phrudd-der annaearol. Gwyliwch ein perfformiad yma!
-
Dances from Forgotten Places gan John Metcalf
Mae Dances from Forgotten Places gan John Metcalf yn cynnwys pum dawns gyflym ac un araf. Ond nid llefydd go iawn yw’r rhain, yn hytrach maen nhw’n cyfeirio at nodweddion artistig cerddoriaeth gyfoes! Gwyliwch Â鶹ԼÅÄ NOW a’r arweinydd Geoffrey Paterson yn eu perfformio yma fel rhan o Å´yl Bro Morgannwg 2021.
-
Andante Cantabile gan Tchaikovsky
Drwy asio caneuon gwerin pruddglwyfus o Rwsia a’i alawon hynaws ei hun, Andante Cantabile gan Tchaikovsky yw un o’i ddarnau mwyaf adnabyddus a phoblogaidd. Gwyliwch ein prif chwaraewr soddgrwth Alice Neary yn perfformio’r darn caboledig hwn gyda Â鶹ԼÅÄ NOW.
-
Symffoni Rhif 3 gan Schmidt
Mae’r arweinydd Jonathan Berman yn ymuno a Â鶹ԼÅÄ NOW ar gyfer Cyngerdd Digidol wythnos yma – Symffoni Rhif 3 swynol a hwyliog Schmidt. Felly gwnewch baned, eisteddwch yn ôl a mwynhewch.
-
Trallali, Trallaley, Trallalera gan Sarah Jenkins
Y prif berfformiad heno yn y Cyngerdd Digidol fydd Trallali, Trallaley, Trallalera gan Sarah Jenkins, sy’n ategu ac yn cyfuno themâu milwrol a natur yn yr un modd â Des Knaben Wunderhorn gan Mahler.
-
Cantabile gan Peteris Vasks
Mae Cantabile gan Vasks yn ddarn gorfoleddus ar gyfer llinynnau sy’n cyfuno prydferthwch a harmoni gyda thrwmfyfyrio. Mae wir yn hudolus…
-
Agorawd Egmont gan Beethoven
Mae’r Iarll Egmont yn sefyll yn erbyn byddin Sbaen sy’n ceisio goresgyn ei dref, gan farw’n arwrol yn yr ymdrech. Ond trwy gydol hanes mae’n sefyll fel ysbrydoliaeth i eraill sy’n gwrthwynebu goresgyniad. Dyma linell stori y ddrama Egmont, y bu Beethoven yn ysgrifennu’r sgôr ar ei chyfer ym 1809. Ymlaciwch â phaned o de ac ymgolli yn y stori wrth wrando ar agorawd gyffrous y cyfansoddwr.
-
Nachtstucke gan Schumann trefn. Donal Bannister
Mae Nachtstücke gan Schumann yn llawn drama rythmig, datblygiad harmonig esmwyth ac mae’r naws a’r cymeriadau’n newid yn barhaus – o’r hwyliog i’r pryfoclyd, o ansicrwydd a’r diffyg dealltwriaeth i ddiwedd y daith gyda’r ymdeithgan angladdol.
-
Agorawd Hebrides gan Mendelssohn
Yn llawn deinameg esgynnol a disgynnol, symudiadau harmonig cynnil a chaleidosgop o liw cerddorfaol, mae Hebrides Overture gan Mendelssohn yn ddisgrifiad gwefreiddiol o'r môr, yr Hebrides ac Ogof Fingal.
-
Sadly Now the Throstle Sings gan Gavin Higgins
Wedi’i ysbrydoli gan gerdd Oscar Wilde 'From Spring Days to Winter', mae 'Sadly Now the Throstle Sings' Gavin Higgins yn alargan i’r rheini sy’n byw yng nghyn drefi glofaol Prydain. Dyma’r darn yn cael ei berfformio gan adrannau pres a tharo Â鶹ԼÅÄ NOW gyda’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft.
-
Thoughts of Love gan Pryor, trefn. Donal Bannister
Mae alawon telynegol, ystumiau tanllyd, ystod enfawr a cadenza lliwgar walts Pryor ‘Thoughts of Love’ yn arddangos y trombôn i’r dim.
-
Symffoni Rhif 88 gan Haydn
O addurniadau cywrain gan y ffliwt, i alawon melodaidd gosgeiddig ond gwladaidd un o’r diweddgloeon mwyaf llawen a gyfansoddodd erioed, mae Symffoni Rhif 88 Haydn yn llawn o’r swyn, y ceinder a’r feistrolaeth y byddech chi’n gobeithio eu cael mewn symffoni.
-
Boléro de Concert gan Lefébure-Wély trefn. Donal Bannister
Mae Bolero de Concert Lefébure-Wély yn dod â dawnsfeydd Sbaenaidd poblogaidd i’r llwyfan cyngerdd, gyda’i themâu gwrol ac angerddol, ynghyd ag adrannau carwsél tebyg i’r ffair.
-
Ma Mere l'Oye gan Ravel
Mae Hen Fam Ŵydd Ravel yn seiliedig ar y chwedl ac mae’n llawn chwarae, cyffro a chymeriad. Mae’n cyfleu diniweidrwydd a phurdeb plentyndod i’r dim.
-
Premiere Byd - Symffoni Rhif 6 gan Matthew Taylor
Mae Chweched Symffoni Matthew Taylor, gan gyfuno lliwiau tryloyw disglair ac unawdau telynegol cadarn, yn ffordd wych o nodi blwyddyn canmlwyddiant y cyfansoddwr o Loegr Malcolm Arnold.
-
Concerto i'r Ffliwt a Telyn gan Mozart
Yn y Concerto i’r Ffliwt a’r Delyn gan Mozart clywir y gerddoriaeth fwyaf celfydd a ysgrifennwyd erioed. Gwrandewch ar y delynores Catrin Finch a’r ffliwtydd Matthew Featherstone yn dawnsio drwy alawon cain a hudolus y gampwaith hon yn y Cyngerdd Digidol heno.
-
Tair Darn o'r Lyric Suite gan Berg
Mae’r Lyric Suite gan Berg yn llawn emosiwn, cariad a chyfrinachedd a hynny drwy’r cyffyrddiadau meddal, ysgafn a’r alawon angerddol llawn dwyster. Gwrandewch ar ein perfformiad o’r Tri Darn o’r gyfres, dal law’r cyfansoddwr ei hun, yma.
-
Symffoni Rhif 90 gan Haydn
Mae ‘Father of the Symphony’, Symffoni Rhif 90 Joseph Haydn yn llawn alawon cywrain, meistrolgar a sionc. Gwrandewch ar ein perfformiad, gyda’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft.
-
Premiere Byd - Five Waltzes gan Ryan Wigglesworth
Darn cyngerdd yr wythnos yma yw’r perfformiad cyntaf yn y byd o Bum Walts diddorol, dyfeisgar a chreadigol Ryan Wigglesworth ar gyfer y fiola a cherddorfa. Mae’n cael ei berfformio gan y chwaraewr fiola Lawrence Power gyda’r cyfansoddwr ei hun yn arwain.
-
Time for your Walk gan Carlijn Metselaar
Mae Time for your Walk gan Carlijn Metselaar yn disgrifio’r ymdeimlad o gyffro a llawenydd; fel nad ydych chi’n methu peidio â dechrau canu!
-
Symffoni Rhif 4 gan Beethoven
Yn wahanol i natur danllyd ac arwrol ei Drydedd Symffoni a’i Bumed Symffoni, mae ei Bedwaredd yn fwy telynegol, urddasol, llac a llaes, gan gadw drama a ffraethineb chwareus nodweddiadol Beethoven a’i gariad tuag at yr annisgwyl.
-
The Better Angels Of Our Nature gan Richard Blackford
Daw’r ysbrydoliaeth i The Better Angels Of Our Nature Richard Blackford o gais ysbrydoledig Abraham Lincoln am gymodi yn ei araith sefydlu yn 1861, ac mae’n cael ei berfformio yma gan ein Prif Oböydd, Steven Hudson.
-
Four Movements for Orchestra gan Nielsen, trefn. J. Swensen
Offeryniaeth Joseph Swensen o un o bedwarawdau llinynnol cynnar Nielsen, mae’r Four Movements for Orchestra llawn angerdd yn cyfleu personoliaeth fywiog y cyfansoddwr o Ddenmarc.
-
Concerto i'r Piano Rhif 2 gan Beethoven
Does rhyfedd fod Concerto Rhif 2 Beethoven i’r Piano mor boblogaidd ymysg pianyddion a chynulleidfaoedd gyda’i harddwch naturiol a’r natur chwareus ac annisgwyl. Mae’r dyfnder emosiynol eithafol a’r cymeriadu deallus yn dod â’r gerddoriaeth yn fyw. Gwrandewch ar ein perfformiad ohono yma, gyda’r pianydd Pavel Kolesnikov.
-
Entr'acte gan Caroline Shaw
Mae 'Entr'acte' lliwgar Caroline Shaw yn gwthio’r ffiniau o ran yr hyn sy’n gallu bod yn finiwét neu’n drio, mae fel petai rhywun yn edrych ar y gerddoriaeth o ochr arall i ddrych… Meddyliwch am Alys yng Ngwlad Hud yn cwrdd â cherddoriaeth Faróc...
-
... through the glass gan Colin Matthews
Yn seiliedig ar linell olaf cerdd gan Edmund Blunden, mae Colin Matthews yn egluro sut mae teitl ei ddarn …through the glass wedi creu’r ddelwedd o weld pethau drwy wydr, yn adlewyrchiad nad oes modd ei gyffwrdd.
-
Symffoni Rhif 41 'Jupiter' gan Mozart
Mae Symffoni Iau Rhif 41 Mozart, y symffoni olaf iddo ei hysgrifennu, yn llawn alawon llawen, angerddol a melodig dros ben, sydd efallai’n egluro pam ei bod yn dal mor boblogaidd.
-
Under the Wing of the Rock gan Sally Beamish
Gydag adran ganol yn gyforiog o rythmau yn gefn i lafarganu caneuon gweithio Celtaidd, ac agoriad a diweddglo araf estynedig ar gyfer yr unawdwr ar y fiola, daw ysbrydoliaeth Sally Beamish ar gyfer Under the Wing of the Rock o’r casgliad o gerddi Carmina Gadelica.
-
El Retrablo de Maese Pedro gan de Falla
Mae El Retablo de Maese Pedro Falla yn waith powld a chyfareddol sy’n ein hudo i’r canol oesoedd. Gwrandewch ar y perfformiad gyda’r unawdydd Clara Mouriz, Jorge Navarro Colorado a Michel de Souza yma.
-
Melos gan William Mathias
Gyda’i arabesgau disglair, ei ffanfferau hudolus a’i ddawns rythmig, mae Melos William Mathias yn llawn heulwen a chwedlau Gwlad Groeg. O’r disglair i’r dirgel, mae’r gwaith yn y sain berffaith ar gyfer eich nos Iau.
-
Divertimento gan Bartok
Gyda dwyster gwefreiddiol a sioncrwydd ffres, Divertimento afieithus Bartok yw’r darn perffaith i arddangos ein hadran llinynnau.
-
Siegfried Idyll gan Wagner
Ysgrifennodd Wagner’s Siegfried Idyll fel syrpreis i’w wraig ar ei phen-blwydd. Mae’n ddarn llawn angerdd, serch ac edmygedd.
-
What Wild Ecstasy gan Gavin Higgins
Mae aelodau Â鶹ԼÅÄ NOW a arweinydd Ryan Bancroft yn perfformio What Wild Ecstasy gan Cyfansoddwr Cysylltiedig Gavin Higgins.
-
Symffoni Siambr gan Schreker
Fydd Symffoni Siambr odidog, ystwyth a swynol Schreker ddim yn cael ei pherfformio’n aml, ond gyda’i seiniau disglair ysgafn, ei harddull ramantaidd gyfoethog a’i halawon pêr, mae’n haeddu cael ei chlywed.
-
Cyfres Rosenkavalier gan Strauss
Mae Cyfres Rosenkavalier Strauss yn cymryd y gerddoriaeth eiconig o’i opera ddoniol o’r un enw ac yn dod â’r uchafbwyntiau ynghyd mewn dathliad sinematig 30 munud o hyd.
-
Brandenburg Concerto Rhif 3 gan Bach
Concerto Brandenburg Rhif 3 eiconig a phoblogaidd Bach, wedi'i berfformio gan aelodau Â鶹ԼÅÄ NAWR gyda'r arweinydd Paul Goodwin.
-
Cantique de Noel gan Adolphe Adam
Mae darn cyngerdd yr wythnos yma yn cyfleu’r Nadolig i’r dim sef Cantique de Noel Adolphe Adam, bydd rhai yn ei adnabod yn well fel Fendigaid Nos.
-
The Nutcracker gan Tchaikovsky
Mae rhai darnau sy’n ein hatgoffa gymaint o’r Nadolig fel na fyddai’n Nadolig hebddyn nhw... yn cynnwys The Nutcracker gan Tchaikovsky – felly dyma fe, wedi’i berfformio gan ein hadrannau pres a tharo, gydag ymddangosiad arbennig gan yr anhygoel Kizzy Crawford.
-
Symffoni Rhif 5 gan Schubert
Ein hail ddarn ym mis Rhagfyr yw Pumed Symffoni twymgalon a hardd Schubert.
-
Four Songs op.27 gan Strauss
Ein darn cyngerdd cyntaf ym mis Rhagfyr yw Strauss 'Four Songs op. 27, wedi'i berfformio gan aelodau o Â鶹ԼÅÄ NAWR a'r Kathryn Rudge swynol
-
Four Novelletten gan Coleridge-Taylor
Gyda cheinder Elgar a pherseinedd Dvořák, dyma gyngerdd hydref wythnos yma: 'Four Novelletten' Samuel Coleridge-Taylor.
-
The Curlew gan Warlock
Ein trydydd darn cyngerdd ym mis Tachwedd yw The Curlew, hardd a llawn awyrgylch Warlock, wedi'i berfformio gan y tenor James Gilchrist a'n prif dannau, ffliwt a chor anglais.
-
Serenade for Strings gan Tchaikovsky
Ein hail ddarn cyngerdd ym mis Tachwedd, dan arweiniad y Prif Arweinydd Ryan Bancroft, yw Serenade for Strings Tchaikovsky gyda'i felancoli, ceinder a drama ddigamsyniol Tchaikovskian.
-
Strange Words gan Judith Bingham
Ein darn cyngerdd cyntaf ym mis Tachwedd yw Strange Words hudolus ac agos atoch Judith Bingham, a berfformir gan y tenor James Gilchrist a'n Prif Soddlydd, Alice Neary.
-
Ulysses Awakes gan John Woolrich
Mae ein darn cyngerdd olaf ym mis Hydref yn berfformiad syfrdanol o Ulysses Awakes gan John Woolrich, yn cynnwys ein Prif Viola Rebecca Jones fel unawdydd.
-
Nonet yn F lleiaf gan Coleridge-Taylor
Ein trydydd perfformiad yn nhymor mis Hydref yw perfformiad o Nonet yn F lleiaf gan Samuel Coleridge-Taylor gyda'r pianydd Simon Crawford-Phillips.
-
Caneon Dowland gyda James Gilchrist
Ar gyfer ein hail berfformiad yn nhymor mis Hydref mae gennym dair cân gan Dowland, wedi'u perfformio gan y tenor James Gilchrist.
-
Capriol Suite gan Warlock
Dyma ddarn cyntaf ein cyfres ddigidol newydd sbon, Capriol Suite Peter Warlock.