Â鶹ԼÅÄ

2 Maw 2023, Neuadd Hoddinott y Â鶹ԼÅÄ, Caerdydd

Â鶹ԼÅÄ NOW 2022-23 Tymor Cyngherddau Digidol: Boulanger

Â鶹ԼÅÄ National Orchestra of Wales
Cyngherddau Digidol: Boulanger
19:30 Iau 2 Maw 2023 Â鶹ԼÅÄ Hoddinott Hall, Cardiff
Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y Â鶹ԼÅÄ yn perfformio'r Vieille priere bouddhique gan Boulanger
Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y Â鶹ԼÅÄ yn perfformio'r Vieille priere bouddhique gan Boulanger

Cyngerdd Digidol: Vieille priere bouddhique gan Boulanger

Mae Vieille prière bouddhique, a ddechreuwyd yn Rhufain yn 1914 a’i gwblhau yn Arcachon yn 1917, yn gosod cyfieithiad Ffrengig o hen destun Bwdhaidd. Cyflwynodd ffrind Lili Boulanger, Suzanne Karpelès, a oedd yn astudio Astudiaethau Dwyreiniol yn y Sorbonne, y cyfansoddwr i’r testun a hi oedd hefyd yn gyfrifol am y cyfieithiad o Pali, yr iaith Fwdhaidd gysegredig. Mae’r is-deitl ‘Prière quotidienne pour tout l’univers’ (Gweddi ddyddiol dros y bydysawd cyfan) yn gyflwyniad addas i naws y gwaith. Caiff y thema o frawdoliaeth rhwng pawb ar draws y byd ei chyfleu drwy ysgrifennu corawl sy’n syml, yn uniongyrchol ac yn aml mewn wythfedau, gyda phawb yn canu’r un llinell. Mae cyffyrddiadau moddol, er enghraifft yn y brif alaw, yn symud yr iaith gerddorol oddi wrth rywbeth clasurol Gorllewinol i rywbeth sy’n llai penodol o ran amser a lle.

Yr elfen ‘ecsotig’ amlycaf o Vieille prière bouddhique yw unawd hir y ffliwt, sy’n ymestyniad o ddeunydd corawl a glywyd yn flaenorol ac yn adleisio diwylliant estron dychmygol yn ei harddull swyn-ganiadol a’i hyblygrwydd rhythmig. Cafodd y gwaith ei berfformio am y tro cyntaf ar 9 Mehefin 1921 dan y teitl camarweiniol ‘Prière hindoue’ yn Salle Pleyel ym Mharis, dan arweiniad Henri Busser; roedd y perfformwyr ar yr achlysur hwn yn cynnwys Nadia Boulanger ar y piano.

Roedd Lili Boulanger wrth ei bodd â gemau geiriau, seiffrau a mwyseiriau cerddorol, ac ar ddechrau ei dyddiadur yn 1912 nododd ddarnau o iaith breifat, y mae rhai ohonynt wedi’u seilio ar nodau cerddorol. Mae un seiffr yn cynrychioli’r enw ‘Lili’: do–sol–do–sol (C–G–C–G), set o bedwar nodyn sy’n amlwg yn Vieille prière bouddhique. Mae hyn yn awgrymu bod y darn corawl hwn nid yn unig yn weddi gyffredinol, ond hefyd yn waith personol iawn.

Nodyn y rhaglen © Caroline Potter