Â鶹ԼÅÄ

14 Tach 2024, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Â鶹ԼÅÄ NOW 2024-25 Season Darluniau o Brydain

Â鶹ԼÅÄ National Orchestra of Wales
Darluniau o Brydain
19:30 Iau 14 Tach 2024 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn

Rhaglen

Perfformwyr

NODWEDDIADOL | GOGONEDDUS | MOETHUS

Mae Martyn Brabbins yn camu i’r podiwm mewn rhaglen o gampweithiau Prydeinig wrth i ni deithio i Aberystwyth a Bangor ym mis Tachwedd eleni.

Gan agor gydag agorawd o waith Grace Williams o’r Barri, Hen Walia, a ysbrydolwyd gan alawon gwerin, yn enwedig yr hwiangerdd Huna Blentyn, rydyn ni’n symud ymlaen at gylch caneuon hynod Brydeinig a hudolus Elgar, ei Sea Pictures – portread cerddorol byw o’r môr a’i gymeriadau cyfnewidiol. I berfformio’r gwaith anhygoel hwn, mae’n bleser gennym gael cwmni Beth Taylor, a gyrhaeddodd rownd derfynol Canwr y Byd Caerdydd.

Ar gyfer yr ail hanner, cawn fwynhau symffoni gan athro Grace Williams, sef Vaughan Williams. Wedi’i chyfansoddi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae ei Bumed Symffoni yn waith myfyriol ond rhythmig gyffrous, sy’n llifo’n odidog ac yn wrthgyferbyniad llwyr i’r cythrwfl o’i chwmpas.