Rhaglen
- Concerto Piano Rhif 1
- Symffoni Rhif 10
Perfformwyr
- Thomas SøndergårdArweinydd
- Nikolai DemidenkoPiano
Cyfansoddwyr
Tchaikovsky & Shostakovich
Ar ail noson ein cyfres piano, rhown groeso i Igor Levit ar gyfer concerto piano cyntaf gwefreiddiol o ramantaidd Tchaikovsky. Bychan a wyddai Tchaikovsky, pan oedd yn sgrifennu ei gordiau agoriadol trawiadol, iddo greu gwaith a ddeuai’r gân glasurol gyntaf i werthu miliwn o recordiau.
Mae’r rhan fwyaf o bobol yn ystyried mai darlun o deyrnasiad Stalin yn Rwsia ydi Degfed Symffoni Shostakovich. Mae’n dyst i gynhysgaeth y cyfansoddwr o gerddoriaeth sy’n croniclo un o’r teyrnasiadau mwyaf terfysglyd mewn hanes diweddar, sy’n ysbrydoli o ran gallu cael gobaith yn y sefyllfaoedd llymaf.
Mae’n ddrwg gennym gyhoeddi bod Igor Levit, oherwydd gwaeledd, yn methu perfformio gyda ni yn y cyngerdd yma. Fodd bynnag, rydyn ni wrth ein boddau bod Nikolai Demidenko yn cymryd lle Igor i chwarae Concerto Piano Cyntaf Tchaikovsky.
Tocynnau: £10-16
Llinell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ: 0800 052 1812
Does dim tâl am godi tocynnau drwy Linell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ.
Swyddfa Docynnau Theatr y Grand: 01792 475715
Mae Theatr y Grand Abertawe yn codi Tâl Archebu o £3.00 y pryniant ar lein. Mae Tâl Cardiau Credyd o 2% am docynnau y talir amdanynt â cherdyn credyd. Does dim tâl am docynnau a godir yn bersonol ac y talir amdanynt â cherdyn debyd, siec neu arian parod.