Sibelius 5
15:00
Sul 11 Chwef 2018
Neuadd y Dref Cheltenham
Daw ochr wladgarol Sibelius yn amlwg yn ei gerdd symffonig fwyaf anthemig ac yna ei bumed symffoni, mawlgan i natur a chefn gwlad ei famwlad. Mae’r hanner cyntaf yn cydbwyso tanbeidrwydd Ffinnaidd â cherddoriaeth ar thema Ddanaidd, gan ddechrau â chyfres o ddarnau ysgafn, achlysurol ar gyfer drama am y Brenin Christian II. Mae Carl Nielsen, cyfansoddwr enwocaf Denmarc, yn cadw'r naws chwareus i fynd gyda’i goncerto cryno a phryfoclyd i’r ffliwt, a fydd yn cael ei chwarae gan Matthew Featherstone, Prif Ffliwtydd Â鶹ԼÅÄ NOW.