Wedi'i ganslo
Yn dilyn cyngor diweddar y Llywodraeth ar COVID-19 a drwy ymgynghori â phartneriaid ein lleoliadau, rydyn ni wedi penderfynu atal holl weithgareddau Cerddorfeydd a Chorau’r Â鶹ԼÅÄ ar unwaith. Mae’r sefyllfa hon yn esblygu’n gyflym a byddwn yn adolygu’r penderfyniad hwn a’r cyngor diweddaraf ym mis Ebrill.
Ynglŷn â'r Digwyddiad Hwn
Ymunwch â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ i gael profi cerddoriaeth sy’n cyffwrdd mewn ffordd na welwyd mo’i thebyg o’r blaen. Bydd Ensemble Will Gregory Moog yn perfformio ochr yn ochr â’r gerddorfa. Ensemble o naw syntheseiddydd analog yw hwn – sy’n cael ei arwain gan yr hanner o’r band Goldfrapp sy’n ysgrifennu’r caneuon.
Hefyd yn perfformio fydd Amy Dickson, yr offerynwraig nodedig o Awstralia sy’n serennu ar y sacsoffon clasurol, a’r Tenor tyner o Gymru, Trystan Llŷr Griffiths. Bydd y gynulleidfa’n cael gweld y cerddorion yn agos, cerdded o gwmpas y lleoliad yn ystod y cyngerdd a chyhoeddi negeseuon trydar a hunluniau ar y wal cyfryngau cymdeithasol fyw.
Dyma’r tro cyntaf i’r Playlist Clasurol: YN FYW gael ei gynnal yng Nghaerdydd a bydd yn cynnwys rhai o’r darnau clasurol mwyaf adnabyddus a gyfansoddwyd erioed – byddwch yn adnabod darnau fel ‘Dawns y Marchogion’ gan Prokofiev (thema The Apprentice) a’r Scherzo o Symffoni Rhif 9 Beethoven (A Clockwork Orange).
Bydd y profiad clasurol hwn yn addas i bawb sy’n hoff o gerddoriaeth, a bydd yn cynnwys effeithiau golau cyffrous, bariau a stondinau bwyd stryd i gyd-fynd â’r naws hamddenol.
-
==
Tocynnau: £15
Consesiynau, Tocynnau Myfyrwyr a Thocynnau Teulu ar gael.
Llinell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ: 0800 052 1812 (Llun-Gwener).