Rhaglen
- Limina
- Violin Concerto
- The Master Said Op. 99
Perfformwyr
- Catherine Larsen-Maguirearweinydd
- Carolin Widmannffidil
- Mark Lewis Jonessiaradwr (The Master Said)
Cyfansoddwyr
Ynglŷn â'r Digwyddiad Hwn
Limina penigamp a llawn egni a mynegiant Helen Grimes yw'r agoriad perffaith i’r cyngerdd prynhawn yma. Mae’r cyngerdd yn cynnwys gwaith tri chyfansoddwr byw, dan arweiniad y feistrolgar Catherine Larsen-Maguire.
Mae Concerto Michael Zev Gordon i’r Ffidil yn gyfuniad perffaith rhwng traddodiad a bydoedd o seiniau anghyfarwydd, mae’n symud yn ôl ac ymlaen rhwng y frwydr a’r rhyddhad gan greu naratif sy’n ailadrodd ac sy’n rhoi boddhad. Cafodd ei berfformio am y tro cyntaf gan y feiolinydd Carolin Widmann yn 2017, mae llais y ffidil yn archwilio llwybrau dieithr, ynghyd ag ansawdd canu’r offeryn y mae Carolin mor angerddol yn ei gylch. Uchafbwynt y cyngerdd hwn yw’r perfformiad cyntaf erioed o The Master Said gan Alexander Goehr, wedi’i berfformio gan yr actor dawnus o Gymru, Mark Lewis Jones.
-
Tocynnau am gyn lleied â £5
Consesiynau, Tocynnau Myfyrwyr a Thocynnau Teulu ar gael.
Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant: 02920 878444