Â鶹ԼÅÄ

Dynes hoyw am geisio sefydlu eglwys sy'n 'derbyn pawb'

Betty HarperFfynhonnell y llun, Betty Harper
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Betty Harper ei magu ar aelwyd Gristnogol "llym iawn, iawn"

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Sir Conwy wedi cael cymaint o lond bol o geisio dod o hyd i eglwys lle mae hi'n teimlo bod croeso iddi fel menyw hoyw fel ei bod yn bwriadu dechrau un ei hun.

Mae Betty Harper, sy'n 21 oed o Landdulas, wedi dyweddïo â'i phartner o ddwy flynedd.

Mae'r ddwy yn Gristnogion sydd eisiau dod o hyd i rywle croesawgar i ymarfer eu ffydd.

Ond hyd yma, dydyn nhw heb ddod o hyd i'r hyn maen nhw'n chwilio amdano.

Fe gafodd Betty ei magu ar aelwyd Gristnogol "llym iawn, iawn," a’r neges a glywodd wrth dyfu i fyny oedd bod perthnasau o'r un rhyw yn bechadurus.

Dywedodd: "Pan oeddwn i'n iau, roeddwn i'n teimlo'n wahanol i fy ffrindiau. Do'n i ddim yn cael fy nenu at y bechgyn lle ges i fy nenu at y merched.

"Roedd fy nhad yn weinidog ar eglwys ar yr adeg hon a'r cyfan rydw i wedi'i wybod gydol fy mywyd yw, 'mae bod yn hoyw yn anghywir, a bydd bod yn hoyw yn eich anfon chi i uffern'."

Mae Betty yn cofio sôn am ei syniadau am ei rhywioldeb am y tro cyntaf wrth ei thad pan oedd hi ym Mlwyddyn 8 ond aeth hynny "ddim lawr yn dda iawn" ac fe stopiodd siarad am y peth.

Ffynhonnell y llun, Betty Harper
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Betty a'i dyweddi, Hannah, gwrdd drwy'r eglwys yn wreiddiol

"Credwch fi, dwi wedi gweddïo a gweddïo a gweddïo i drio newid sut dwi'n gweld bechgyn a sut dwi'n gweld merched," meddai, ond ychwanegodd fod "Duw wedi fy nghreu i fel hyn, dyna beth dwi'n ei gredu fel Cristion."

Mae bywyd Betty wedi'i glymu'n agos â'i chrefydd.

Mae hi'n gweithio fel rheolwr canolfan i elusen Gristnogol sy'n cynnig cefnogaeth a chymorth cymunedol i bobl Y Rhyl, gan gymryd drosodd rôl ei mam a helpodd i sefydlu'r elusen yn ystod pandemig Covid-19.

Teulu wedi ei 'diarddel'

Mae sefyllfa Betty wedi arwain at dorri cysylltiad gydag ochr ei thad o'r teulu.

"Oherwydd fy ffordd o fyw, dydyn ni ddim yn siarad mwyach. Maen nhw wedi fy niarddel i oherwydd fy mod i gyda menyw," meddai.

Gwahanodd ei rhieni pan oedd hi yn ei harddegau, ac er bod ochr ei mam o'r teulu hefyd yn Gristnogion, dydyn nhw "ddim mor strict".

Ffynhonnell y llun, Andrei Daniel Production
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw mai'r Tad Lee Taylor (yn y canol) a'i gymar Fabiano Da Silva Duarte yw'r cwpl cyntaf o'r un rhyw i gael gwasanaeth eglwysig i fendithio'u perthynas dan reolau newydd yr Eglwys yng Nghymru

Yn eironig efallai, trwy’r eglwys wnaeth Betty a’i phartner, Hannah, gyfarfod gyntaf.

Er nad oedd Hannah wedi dod allan yn hoyw ar yr adeg y daeth yn Gristion, roedd hi'n dal i brofi sylwadau gwrth-hoyw trwy wasanaethau’r Sul.

"Mewn gwasanaeth cyffredin ar y Sul, roedden nhw’n pregethu’r neges nad oedd hi'n iawn i fod yn hoyw," meddai.

"Roedd hi fel, 'hei, mae hynna’n chwerthinllyd, pam na allwch chi gael eich derbyn am fod yn hoyw?'"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae priodas rhwng dau berson o'r un rhyw yn dal i fod yn "dabŵ" mewn rhai eglwysi, ym mhrofiad Betty

Mae Betty yn cydnabod bod camau wedi eu cymryd mewn rhai eglwysi Cristnogol i groesawu a derbyn aelodau LHDTC+.

Ond hyd yma, meddai, nid yw wedi dod o hyd i rywle y mae'n teimlo ei bod yn cael ei derbyn yn llwyr.

Mae Betty yn gantores ac mewn un eglwys oedd wedi croesawu’r cwpl yn wreiddiol, mae'n dweud iddi gael gwybod y gallai fynd i ymarferion côr ond na cha'i ganu neu berfformio ar lwyfan.

Roedd hynny, mae'n honni, oherwydd fod rhywun wedi dweud wrthi nad oedden nhw am iddi ddylanwadu ar y bobl iau.

Fe gerddodd i ffwrdd o’r eglwys honno.

"Dywedais: 'Dwi di cael llond bol o geisio dod o hyd i eglwys'," meddai.

"Rydyn ni wedi bod gyda'n gilydd ddwy flynedd a hanner ac mae angen i ni ddod o hyd i eglwys sy'n gwbl dderbyniol."

Dyna pryd y penderfynodd Betty fynd ati i ddechrau eglwys ei hun.

'Pawb yn cael eu derbyn am bwy ydyn nhw'

Mae hi nawr yn ceisio dod o hyd i grŵp ehangach o bobl sydd â diddordeb, dod o hyd i adeilad a gweinidog "cwbl groesawgar" i'r eglwys, ac mae eisoes wedi cael ymatebion cadarnhaol i'r syniad ar-lein.

"Nid yw'n benodol ar gyfer pobl LHDTC+ yn unig. Mae croeso i bobl syth," meddai.

"Mae croeso i bawb, hyd yn oed os nad ydych yn Gristion.

"Mae'n fan lle mae pawb yn cael eu derbyn am bwy ydyn nhw, ac maen nhw'n cael eu caru'n llwyr."

Mae Betty yn chwilio am "unrhyw le yng Nghymru" lle mae adeilad da mewn cymuned groesawgar.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eglwys Esgobol yr Alban yn un o'r grwpiau crefyddol yn y DU sydd yn cynnal priodasau o'r un rhyw yn ei hadeiladau

Mae Betty a Hannah yn gobeithio priodi yn 2025 ac os aiff pethau yn iawn, yn gobeithio y byddan nhw'n gallu cael bendith yn eu heglwys eu hunain ar ôl gwasanaeth sifil.

Ar hyn o bryd, ni all cyplau o'r un rhyw briodi mewn eglwysi Catholig, Eglwys Anglicanaidd Lloegr na'r Eglwys yng Nghymru, er bod Eglwys yr Alban wedi pleidleisio o blaid.

Mae enwadau eraill, fel yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, y Crynwyr ac Eglwys Esgobol yr Alban yn perfformio seremonïau priodas ar gyfer cyplau o'r un rhyw.

Ar ôl blynyddoedd o glywed bod ei rhywioldeb yn bechadurus, mae Betty eisiau bod mewn man lle mae hi a phobl hoyw eraill yn cael eu derbyn.

Fel mae'n dweud: "Y cyfan rydych chi'n ei wneud yw caru rhywun, a Duw yw cariad, felly sut y gall ef wahaniaethu yn eich erbyn chi am garu rhywun?"

Pynciau cysylltiedig