Â鶹ԼÅÄ

'Carreg filltir' bendithio cwpl hoyw mewn eglwys

  • Cyhoeddwyd
Fabiano Da Silva Duarte, Y Tad Lee Taylor ac Esgob LlanelwyFfynhonnell y llun, adanielproduction
Disgrifiad o’r llun,

Fabiano Da Silva Duarte (chwith) a'r Tad Lee Taylor gydag Esgob Llanelwy

"Mae'n garreg filltir ac yn gam wirioneddol fawr," medd y Tad Lee Taylor. "Mae'n gyfle i ddathlu ein cariad ac undeb ym mhresenoldeb Duw. Mae'n gyfnod cyffrous - ac yn amser dathlu!"

Y gred yw mai'r Tad Lee a'i gymar Fabiano Da Silva Duarte yw'r cwpl cyntaf o'r un rhyw i gael gwasanaeth eglwysig i fendithio'u perthynas dan reolau newydd yr Eglwys yng Nghymru.

Daw yn sgil pleidlais hanesyddol ym mis Medi pan benderfynodd corff llywodraethol o blaid bendithio priodas neu bartneriaeth sifil cyplau un rhyw mewn gwasanaeth eglwysig.

Ond dyw'r bleidlais ddim yn golygu y bydd cyplau o'r un rhyw yn cael priodi mewn eglwys.

Yn nhermau diwinyddol, mae bendith yn dynodi cymeradwyaeth Duw. Mae'n nodi symudiad sylweddol o ddysgeidiaeth hanesyddol yr eglwys bod perthnasau hoyw yn bechadurus.

'Gwefreiddiol ac ystyrlon'

Dywedodd y Tad Lee bod y gwasanaeth brynhawn Sadwrn yn "eithriadol o arbennig".

"Cafodd ein partneriaeth sifil ei gynnal yn ei swyddfa gofrestru leol yn Llundain yn 2008. Er ei fod yn gam pwysig i ni, nid oedd yn teimlo fel achlysur o ddathlu mawr bryd hynny.

"Roedd y seremoni'n fyr a doedd dim elfennau crefyddol. Nid oedd yn teimlo fel moment ddwys a chysegredig.

Ffynhonnell y llun, Y Tad Lee Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Y Tad Lee Taylor a'i gymar Fabiano Da Silva Duarte ar ddiwrnod seremoni eu partneriaeth sifil yn 2008

"Mae gyda ni'n dau ffydd a chariad dwfn at Dduw ac mae'r eglwys yn rhan bwysig o ein bywydau erioed," ychwanegodd.

"Mae ymrwymo i ein gilydd, yn gyhoeddus, mewn cyfamod o gariad a dathlu ein hundeb yn yr eglwys ble rydym nawr yn ei bugeilio yn bwysig iawn ac yn arwyddocaol i'r ddau ohonom.

"Rydym yn gyffrous o allu cymryd y cam nesaf yma yn ein taith gyda'n gilydd. Mae wedi bod yn wasanaeth gwefreiddiol ac ystyrlon i ni. Roeddan ni wrth ein boddau o gael dau gôr lleol yn canu i ni a chaniad arbennig o'r clychau wedi'r gwasanaeth."

Ffynhonnell y llun, adanielproduction
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Tad Lee bod y seremoni wedi bod "yn eithriadol o arbennig"

Dywedodd bod y seremoni'n "edrych ac yn ogleuo fel priodas" gyda pherthnasau a ffrindiau'n dyst i'r achlysur, ond bod eu teimladau'n gymysg o wybod nad priodas mohoni.

"Yn anffodus, dyw priodasau cyplau o'r un rhyw yn dal ddim yn cael eu caniatáu mewn eglwys," meddai. "Mae'n teimlo ein bod ond hanner ffordd at hynny.

"Hoffwn weld yr Eglwys yng Nghymru'n symud ymlaen nawr... Rwy'n credu bod gwneud cyfamod gydag ein cymar mewn priodas yn adlewyrchiad i gyfamod Duw ei hun gyda ni trwy'r Iesu."

Ffynhonnell y llun, adanielproduction

'Anrhydedd a braint'

Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Gregory Cameron, wnaeth arwain y gwasanaeth yn Eglwys Sant Collen, Llangollen, ble mae'r Tad Lee yn offeiriad.

Dywedodd yr Esgob bod hi'n "anrhydedd ac yn fraint" i arwain y gwasanaeth cyntaf y mae'r Eglwys yn ymwybodol ohono i fendithio perthynas cwpl o'r un rhyw.

Er i gorff llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru gymeradwyo'r gwasanaeth newydd, mae gan offeiriaid hawl i ddewis peidio bod yn rhan ohonyn nhw os ydyn nhw'n groes i'w cydwybod.

Fe wnaeth y Gymdeithas Efengylaidd wrthwynebu'r cam, gan ddweud nad yw'n cynnal "safon priodas Gristnogol rhwng un dyn ac un fenyw".

Mae Eglwys Lloegr yn parhau i atal offeiriaid rhag cynnal gwasanaethau bendithio o'r fath.

Eglwys Esgobol Yr Alban, yn 2017, oedd eglwys Anglicanaidd cyntaf y DU i ganiatáu priodas rhwng dau o'r un rhyw.

Ers hynny mae enwadau eraill wedi dilyn yr un trywydd gan gynnwys y Crynwyr ym Mhrydain a'r Eglwys Ddiwygiedig Unedig.

Pynciau cysylltiedig