鶹Լ

'Dyna un ffordd o fod yn enwog', meddai disgybl, 14, ar ôl trywanu

Disgrifiad,

Cafodd y fideo CCTV yma o'r digwyddiad ei ddangos i'r llys

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys cyfeiriadau at hunanladdiad

Mae rheithgor wedi clywed i ferch 14 oed ddweud “dyna un ffordd o fod yn enwog” ar ôl trywanu tri pherson yn Ysgol Dyffryn Aman.

Cafodd Liz Hopkin, Fiona Elias a disgybl eu trywanu amser egwyl ar 24 Ebrill.

Mae’r ferch, na allwn ei henwi am resymau cyfreithiol, yn cyfaddef iddi drywanu'r tri, ond mae hi'n gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, gwelodd rheithgor ddeunydd camera corff yr heddlu adeg arestio’r ferch 14 oed.

Mae'n dangos y diffynnydd yn cael ei throsglwyddo i orsaf heddlu Llanelli yng nghefn cerbyd heddlu ac yn dweud wrth swyddog iddi drywanu disgybl, gan ychwanegu “oopsies”.

Gofynnodd y ferch: "Ydyn nhw’n mynd i farw?

"Dwi 90% yn sicr fydd hyn ar y newyddion a bydd hyd yn oed fwy o bobl yn edrych arna i," meddai.

"Dyna un ffordd o fod yn enwog."

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd lluniau'r gyllell a ddefnyddiwyd i ymosod ar yr athrawon a'r disgybl eu dangos i'r llys

Gofynnodd y ferch i'r swyddog: “Fel [sut] alla i wynebu fy nheulu ar ôl be dwi wedi gwneud?”

Ychwanegodd: “Hynny yw, os ydyn nhw’n troi lan.”

Gwelodd y rheithgor ddeunydd camera cylch cyfyng (CCTV) o’r munudau cyn yr ymosodiadau oedd yn dangos y diffynnydd yn eistedd yn neuadd yr ysgol.

Cafodd y ferch ei gweld yn eistedd o amgylch bwrdd gyda chriw o ddisgyblion, yn dangos cyllell yn ei phoced.

Funudau’n ddiweddarach mae’n cerdded tu allan tuag at Liz Hopkin a Fiona Elias ac yn dechrau trywanu Ms Elias.

Gwelwyd Ms Elias yn dianc cyn i’r ferch droi at Liz Hopkin a dechrau ei thrywanu hithau.

Anadlu'n drwm a 'syllu'n wag'

Mae’r deunydd CCTV yn dangos y diffynnydd yn rhedeg tuag at ddisgybl a’n gweiddi arni, cyn ei thrywanu.

Cafodd fideo gan ddisgybl ar ap Snapchat ei ddangos hefyd, yn dangos y foment cafodd y disgybl ei thrywanu gan ferch 14 oed.

Roedd y fideo yn dangos plentyn yn cyfeirio at ddisgybl a’n dweud: “Mae hi newydd gael ei thrywanu."

Dangosodd y fideo olygfa swnllyd gyda nifer o blant o gwmpas, ac athrawes, Alexandra McNeill yn gweiddi: “Ewch yn ôl nawr.”

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr athrawon Liz Hopkin (chwith) a Fiona Elias (dde) eu hanafu yn yr ysgol ar 24 Ebrill

Cafodd datganiad ei ddarllen hefyd gan James Durbridge, pennaeth Ysgol Dyffryn Aman.

Fe dderbyniodd alwad gan Fiona Elias, meddai, yn dweud ei bod hi wedi cael ei thrywanu gan ddisgybl.

Disgrifiodd Mr Durbridge iddo ddechrau system dan glo, neu ‘code red’, cyn symud allan i iard yr ysgol.

Dywedodd iddo edrych i lygaid y ferch, gan ddweud: “Ti’n ddiogel ond mae angen imi gael y gyllell.”

Yn ôl Mr Durbridge, roedd y ferch yn anadlu’n drwm ac yn "syllu’n wag".

Fe ollyngodd y ferch y gyllell gan ei roi i aelod o staff, meddai.

Aeth Mr Durbridge i mewn i’r adeilad i weld Liz Hopkin, oedd wedi ei thrywanu pum gwaith, gan gynnwys yn ei gwddf.

Dywedodd iddo weld Ms Hopkin yn rhoi pwysau ar ei gwddf, a'i bod yn "gwaedu’n drwm".

Disgrifiodd i Fiona Elias gael "anaf dwfn" ar dop ei braich chwith.

Gwrthod ateb cwestiynau

Yn natganiad Ceri Myers, dirprwy bennaeth Ysgol Dyffryn Aman, dywedodd iddo aros gyda’r ferch yn ei swyddfa tra’u bod yn aros am yr heddlu.

Dywedodd nad oedd y ferch yn ateb ei gwestiynau, a gofynnodd a oedd unrhyw beth yn ei cheg.

Yn ôl Mr Myers, atebodd y ferch: “Os oedd gen i rywbeth yn fy ngheg byddwn i wedi ei ddefnyddio i ladd fy hun erbyn nawr.”

Gofynnwyd iddi a oedd yn meddwl am hunan-niweidio ac atebodd: "Na."

Cafodd y ferch 14 oed ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn Ysgol Dyffryn Aman.

Dywedodd yr heddlu nad oedd y diffynnydd yn ateb unrhyw gwestiynau ar y pryd.

Yn ôl swyddogion fe ddywedodd y ferch: “Dwi ddim yn ateb unrhyw beth nawr tan i fy nhad gyrraedd.”

Clywodd y rheithgor ddatganiad gan y parafeddyg cyntaf i ymateb i’r digwyddiad, William Pridmore-Bowen.

Fe gadarnhaodd i Liz Hopkin gael “sawl anaf o ganlyniad i drywanu”.

Cafodd ei throsglwyddo i ysbyty yng Nghaerdydd gan ambiwlans awyr.

Yno aeth i weld Fiona Elias a’r disgybl gan ddweud nad oedd angen “triniaeth brys” arnyn nhw.

Gwelodd y rheithgor luniau o anafiadau Liz Hopkin, Fiona Elias a’r disgybl.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ferch 14 oed ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn Ysgol Dyffryn Aman

Fe ddangosodd yr erlynydd William Hughes ddarluniau a wnaed gan y diffynnydd a gafodd eu canfod yn ei bag a’i hystafell wely .

Roedd un darlun yn cyfeirio at “Mrs Frogface Elias” ac un arall yn dweud “BYDD [y disgybl] YN LLOSGI!”

Roedd ei darluniau yn cynnwys y geiriau, “boddi”, “gallen nhw farw” gyda wyneb hapus ar ei bwys, a “torri eu llygaid a’u cegau”.

Roedd llyfrau nodiadau yn dweud bod y diffynnydd eisiau lladd ei hun, a’r geiriau “MAE’N FY NGHASAU I”.

Ychwanegodd: “Dwi eisiau gwneud rhywbeth dyw pobl ddim fod i wneud” a “Pam ydw i eisiau lladd eraill gymaint â dwi eisiau lladd fy hun?”

Yn ystod y rhan yma o’r achos roedd pen y ferch 14 oed ar y bwrdd wrth iddi eistedd gyda’i thîm cyfreithiol.

Mae’r ferch 14 oed yn gwadu ceisio llofruddio ac mae’r achos yn parhau.