麻豆约拍

Ysgol Dyffryn Aman: Merch wedi s么n ei bod am drywanu athrawes

Ysgol Dyffryn AmanFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr ysgol ei chau wedi'r digwyddiad ar 24 Ebrill eleni

  • Cyhoeddwyd

Mae rheithgor wedi clywed i ferch 14 oed ddweud wrth ddisgyblion eraill ei bod hi鈥檔 mynd i drywanu athrawes y diwrnod hwnnw.

Yn 么l tyst i'r achos o drywanu yn Ysgol Dyffryn Aman ar fore 24 Ebrill, mi ddywedodd y diffynnydd y byddai hi鈥檔 鈥済wneud rhywbeth twp鈥 yn yr ysgol, cyn iddi drywanu dau athro ac un disgybl.

Mae'r ferch 14 oed, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, yn cyfaddef iddi drywanu Fiona Elias a Liz Hopkin yn ogystal 芒 disgybl arall, ond mae hi yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.

Ar drydydd diwrnod yr achos yn Llys y Goron Abertawe fe glywodd y rheithgor gan dad y ferch.

Roedd ei thad wedi cael ei alw i鈥檙 ysgol yn 2023 ar 么l i staff ddarganfod cyllell ym mag ei ferch ac oherwydd hynny ei fod yn edrych yn ei bag bob bore ond nad oedd wedi llwyddo i edrych yn y bag ar fore'r 24 o Ebrill.

Gwelodd y rheithgor y gyllell gafodd ei defnyddio i drywanu tri o bobl yn Ysgol Dyffryn Aman.

Dywedodd tad y ferch: 鈥淣es i ddim llwyddo i wirio鈥檌 bag ar fore'r 24ain o Ebrill鈥 gan ychwanegu ei fod heb weld ei ferch y bore hwnnw.

鈥淒oedd neb ar ddi-hun nag o gwmpas yr amser gadawodd hi鈥檙 t欧鈥, meddai'r tad.

Clywodd y rheithgor ei fod yn defnyddio鈥檙 arf i dorri bachau pysgota.

'Mynd i wneud rhywbeth twp'

Fe glywodd y rheithgor gyfweliadau a gafodd eu recordio gan yr heddlu gyda disgyblion oedd yn bresennol ar adeg y digwyddiad.

Dywedodd un disgybl, na ellir ei henwi oherwydd ei hoed, ei bod hi a鈥檌 ffrindiau wedi siarad gyda鈥檙 diffynnydd fore鈥檙 ymosodiadau yn y tai bach.

Yn 么l y tyst, fe ddywedodd y diffynnydd y byddai'n "gwneud rhywbeth twp, a allai arwain at gael fy ngwahardd o'r ysgol".

鈥淥edd hi鈥檔 mynd i wneud rhywbeth i Mrs Elias," meddai'r tyst.

"O鈥檔 i鈥檔 meddwl oedd hi鈥檔 mynd i slapio hi neu rywbeth. Doeddwn ni ddim yn gwybod pa mor ddifrifol bydde fe.鈥

Ychwanegodd y tyst: 鈥淒oeddwn i ddim yn deall pam fyddai hi eisiau slapio Mrs Elias.鈥

Clywodd y llys i'r diffynnydd drywanu Fiona Elias, Liz Hopkin ac yna disgybl arall ar iard yr ysgol yn ddiweddarach y bore hwnnw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fiona Elias a Liz Hopkin yn cyrraedd y llys fore Mercher

Yn 么l disgybl arall a gafodd ei chyfweld: 鈥淒ywedodd hi wrthon ni ei bod hi鈥檔 mynd i drywanu Ms Elias.鈥

Roedd y disgybl, na ellir ei henwi, yn dweud ei bod hi鈥檔 eistedd yn y neuadd gyda鈥檙 diffynnydd funudau'n unig cyn yr ymosodiadau.

Ychwanegodd: 鈥淒oeddwn i ddim yn ei chredu hi, tan iddi hanner dangos y gyllell i mi.

鈥淢ae hi o hyd yn dweud pethau ni ddim yn credu.鈥

Yn 么l y tyst roedd y diffynnydd yn siarad gyda Fiona Elias yn y neuadd ac roedd Ms Elias yn dweud wrthi nad oedd hawl ganddi i fod yn y rhan yna o'r neuadd.

Dywedodd: 鈥淒oedd dim emosiwn ar ei hwyneb - oedd e fel ei bod hi wedi newid.鈥

Yn 么l y tyst roedd y diffynnydd yn chwerthin ar Ms Elias wedi鈥檙 sgwrs, gan fod, yn 么l y tyst, Ms Elias 鈥測n amlwg ei hofn鈥.

Clywodd y rheithgor bod y ferch 14 oed a Ms Elias yn 鈥渃weryla鈥檔 gyson鈥, cyn i'r tyst ychwanegu bod y diffynnydd yn gallu bod yn 鈥渁nghwrtais鈥.

'Meddwl bod hi鈥檔 jocian'

Roedd tyst arall, na ellir ei enwi, yn eistedd gyda鈥檙 diffynnydd funudau cyn yr ymosodiadau.

Yn 么l y tyst fe ddywedodd y diffynnydd mai "dyma鈥檙 tro olaf byddwch chi鈥檔 fy ngweld i am sbel" gan ychwanegu ei bod hi鈥檔 "cael ei gyrru ffwrdd am amser hir".

"O鈥檔 i鈥檔 meddwl bod hi鈥檔 jocian," meddai'r tyst.

Dywedodd fod ymddygiad y diffynnydd wedi newid ar 么l iddi weld Fiona Elias yn y neuadd.

鈥淩oedd hi鈥檔 chwerthin a鈥檔 jocian, yno cerddodd Ms Elias mewn a newidiodd ei hwyneb yn llwyr," meddai.

Clywodd y rheithgor i athrawon gloi drysau eu dosbarthiadau wedi鈥檙 ymosodiadau.

Dywedodd y tyst: 鈥淩oeddwn i鈥檔 cael negeseuon yn dweud 'Mae [y ferch] wirioneddol wedi gwneud rhywbeth, doedd e ddim yn j么c鈥."

Mae'r ferch 14 oed yn gwadu tri chyhuddiad o lofruddio ac mae'r achos yn parhau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Clywodd y rheithgor i athrawon gloi drysau eu dosbarthiadau wedi鈥檙 ymosodiadau

Yn ddiweddarach fe welodd y rheithgor gyfweliad heddlu gyda disgybl arall, oedd yn honni bod y disgybl a gafodd ei thrywanu wedi 鈥渟lapio鈥 y diffynnydd rhyw fis cyn yr ymosodiad.

Dywedodd fod "y ddwy yn gweiddi鈥 gan ychwanegu fod y slap 鈥測n edrych yn eithaf caled鈥.

Clywodd y rheithgor hefyd gyfweliad disgybl oedd yn honni clywed y diffynnydd yn dweud 鈥渕ae gan fy nhad arfau鈥, wythnos cyn y digwyddiad.

鈥淒ywedodd pe bai hi鈥檔 ymladd y byddai hi鈥檔 defnyddio cyllell," meddai'r disgybl.

Ychwanegodd bod y diffynnydd 鈥測n cas谩u Ms Elias鈥 gan ychwanegu ei bod hi 鈥渆isiau ei lladd hi鈥, yng ngeiriau鈥檙 tyst.

Pynciau cysylltiedig