Â鶹ԼÅÄ

16 wedi eu harestio yn dilyn protest gorsaf heddlu

protestwyr a'r heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr a'r heddlu y tu allan i Swyddfa heddlu Bae Caerdydd nos Lun

  • Cyhoeddwyd

Mae 16 o bobl wedi eu harestio ar amheuaeth o ymddygiad treisgar mewn gorsaf heddlu yn dilyn protest o blaid Palesteiniaid yng Nghaerdydd.

Fe gafodd pobl eu harestio "o flaen y brif ddesg" yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd nos Lun, oriau yn unig ar ôl i ddyn gael ei arestio mewn gwrthdystiad cynharach, meddai Heddlu De Cymru.

Roedd Myfyrwyr Cymru i Balestina wedi honni bod yr heddlu wedi "ymosod" ar y rheiny oedd yn "gweithredu'n heddychlon yn y dderbynfa" yn yr orsaf.

Cafodd fideos eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol oedd yn dangos protestwyr yn gweithredu y tu allan i'r orsaf, gydag eraill yn creu cadwyn o bobl y tu fewn i'r drysau.

Mae fideo hefyd o unigolyn oedd yn protestio yn cael ei lusgo ar y llawr gan yr heddlu.

Myfyrwyr yn 'grac' gydag ymddygiad heddlu

Dywed Heddlu De Cymru bod protest yn cynnwys rhwng 50 a 60 o bobl yng nghanol Caerdydd brynhawn Llun, lle cafodd dyn 36 oed o Abertawe ei arestio "ar amheuaeth o rwystro'r briffordd yn fwriadol a cheisio creu trafferth yn gyhoeddus".

Cafodd protest pellach ei chynnal yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd nos Lun, lle cafodd 16 o bobl eu harestio "ar amheuaeth o ymddygiad treisgar mewn gorsaf heddlu", meddai'r llu.

Fe wnaethon nhw ychwanegu fod y rhai a gafodd eu harestio yn parhau yn y ddalfa ac mae ymholiadau yn digwydd.

Dywed Myfyrwyr Cymru i Balestina eu bod wedi eu "ffieiddio ac yn grac" gydag ymddygiad yr heddlu.

Mae Heddlu De Cymru wedi cael cais am ymateb i'r honiadau.

Dywed Adam Johannes, o Cardiff Stop the War Coalition, mai nod y brotest oedd tynnu sylw at gefnogaeth y cyhoedd am gadoediad yn Gaza a fyddai'n "achub miloedd o fywydau".

Dywed fod symudiad gwrthryfel Cymru wedi sicrhau "ymdeimlad o argyfwng" gan ymgyrch filwrol Israel yn Rafah, sydd yn ne Gaza.

Pynciau cysylltiedig