Â鶹ԼÅÄ

Galw trawsbleidiol am gadoediad ar unwaith yn Gaza

  • Cyhoeddwyd
Grwp o ddynion wrth adeiladau sydd wedi eu dymchwel yn GazaFfynhonnell y llun, Reuters

Mae aelodau o'r pedair plaid yn Senedd Cymru wedi galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza.

Mae 20 o wleidyddion Bae Caerdydd wedi arwyddo 'Datganiad o Farn' sydd hefyd yn mynegi "pryder dwys ynghylch y drasiedi barhaus yn Israel a Gaza".

Mae Plaid Cymru yn ceisio ennyn cefnogaeth drawsbleidiol i'r ddadl ar ôl toriad hanner tymor Senedd Cymru.

Yn y cyfamser, mae wyth aelod Seneddol Llafur a thri Ceidwadol wedi galw am "ddiwedd ar y gwarchae".

Mae'r aelodau hynny sydd wedi arwyddo'r datganiad yn dweud eu bod yn "condemnio'r ymosodiadau ar ddinasyddion Israel a'r arfer o gymryd gwystlon", a'u bod hefyd yn "bryderus iawn ynghylch y bomio a'r gwarchae yn Gaza".

Maen nhw wedi galw am "ddiwedd ar y gwarchae er mwyn caniatáu cyflenwadau hanfodol i'r ardal".

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 1.4 miliwn o bobl wedi ffoi o'u cartrefi yn Gaza, gyda 600,000 ohonynt bellach mewn gwersylloedd y Cenhedloedd Unedig

Nid oes gan y Senedd rôl ffurfiol mewn materion tramor ond gall fynegi barn, ac mae'r datganiad yma'n caniatáu i aelodau unigol ddangos sut maen nhw'n teimlo am yr hyn sy'n digwydd yn y Dwyrain Canol ar hyn o bryd.

Cafodd y testun ei gyflwyno gan Aelod Seneddol Llafur Dwyrain Casnewydd, John Griffiths, yr AS Ceidwadol Altaf Hussain, Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Jane Dodds.

Ymhlith cefnogwyr eraill Llafur mae Vikki Howells, Jack Sargeant, Carolyn Thomas, Jayne Bryant a Mike Hedges.

Roedd y Ceidwadwr Darren Millar a chyn-arweinydd y Torïaid Paul Davies hefyd yn cefnogi'r testun, ochr yn ochr â nifer o aelodau Senedd Plaid Cymru.

Drwy fynegi eu barn, maen nhw o bosib yn anfon neges at arweinwyr eu pleidiau yn Llundain, gyda Rishi Sunak na Syr Keir Starmer wedi cefnogi galwadau am gadoediad hyd yma.

Mae Syr Keir Starmer wedi wynebu galwadau gan 150 o gynghorwyr Mwslimaidd Llafur a mwy na 30 o ASau Llafur yn ei annog i gefnogi cadoediad ar unwaith.