Rali Machynlleth: 'Teimlo'n gryf y dylai tai fod yn gartrefi'

  • Awdur, Sion Tootill
  • Swydd, Newyddion 麻豆约拍 Cymru

Daeth dros 300 o bobl ynghyd mewn rali ym Machynlleth brynhawn Sadwrn i alw ar y llywodraeth i ymateb i鈥檙 "argyfwng tai yng Nghymru" a sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg.

Cafodd y rali ei chynnal ddeuddydd cyn Diwrnod Owain Glynd诺r, sy鈥檔 nodi 624 mlynedd ers ei goroni yn dywysog Cymru.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Bethan Roberts mai nad mewn trefi glan m么r yn unig mae argyfwng tai

Roedd Bethan Roberts, sy鈥檔 dod o Fachynlleth, yn rhan o鈥檙 trefniadau ar gyfer y rali.

Dywedodd: 鈥淒wi鈥檔 teimlo鈥檔 gryf dros y syniad bod tai yn gartrefi ac nid llefydd gwyliau yn unig neu llefydd i wneud arian.

"Mae鈥檔 glir bod 'na argyfwng tai mewn cymunedau ar y m么r fel Aberdyfi neu Abersoch ond mae 'na broblem yma ym Machynlleth hefyd. Felly mae鈥檔 bwysig cyfathrebu hynny a dangos bod angen newid.鈥

Ychwanegodd: 鈥淢ae鈥檔 wych gallu gwneud hynny mor agos i ddiwrnod Glynd诺r hefyd.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淢ae gan Gymru gymaint i鈥檞 gynnig i ymwelwyr ac rydym am sicrhau ein bod yn gwireddu鈥檙 potensial hwnnw mewn ffordd sy鈥檔 sicrhau cydbwysedd cynaliadwy rhwng ein cymunedau, busnesau, tirweddau ac ymwelwyr.

"Credwn fod gan bawb hawl i gartref teilwng, fforddiadwy i'w brynu neu i'w rentu yn eu cymunedau eu hunain fel y gallant fyw a gweithio'n lleol."

'Gweithredu cyn bod hi'n rhy hwyr'

O dan y rheolau newydd, fe all cynghorau godi premiwm o hyd at 300% ar ben y lefel arferol i geisio mynd i'r afael 芒'r argyfwng tai.

Fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru, fel rhan o gytundeb cydweithio Llafur a Phlaid Cymru, y premiwm yn rhannol er mwyn ei gwneud yn haws i bobl leol allu fforddio prynu tai yn yr ardaloedd y cawson nhw eu magu.

Disgrifiad o'r llun, 鈥淒wi鈥檔 teimlo鈥檔 gryf dros yr angen am Ddeddf Eiddo," medd Si么n ap Dafydd

Teithiodd Si么n ap Dafydd o Ffos y Gerddinen yn Sir Caerffili i gymryd rhan yn y rali.

Dywedodd: 鈥淒wi鈥檔 teimlo鈥檔 gryf dros yr angen am Ddeddf Eiddo. Dwi鈥檔 ifanc ac yn edrych i brynu t欧 ond mae鈥檔 anodd iawn ffeindio tai yn yr ardal dwi鈥檔 dod ohoni ac mae gyda fi ffrindiau sy鈥檔 dweud union yr un peth.鈥

Mae Mr ap Dafydd yn falch bod y llywodraeth wedi rhoi鈥檙 p诺er i gynghorau godi treth premiwm ar ail dai. Ond, mae鈥檔 teimlo bod angen mynd ymhellach eto.

鈥淢ae gan y llywodraeth mwy o bwerau eto sy鈥檔 gallu gwneud gwahaniaeth. Mae angen iddyn nhw weithredu cyn mae鈥檔 rhy hwyr.鈥

Disgrifiad o'r llun, "Mae鈥檙 tai haf yma yn sicr yn effeithio ar yr iaith Gymraeg," medd Meredith Millar

Mae Meredith Millar yn dod o Efrog Newydd yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghymru.

鈥淢ae鈥檔 hynod o drist gweld y Gymraeg yn diflannu o fy nghymuned i. Dwi wedi dysgu鈥檙 iaith achos mae pob un iaith yn bwysig ac yn drysor.

"Ond mae鈥檙 tai haf yma yn sicr yn effeithio ar yr iaith Gymraeg ac felly mae angen gwneud rhywbeth fel bod modd i bobl sy鈥檔 cefnogi鈥檙 iaith a鈥檙 diwylliant fyw yn lleol,鈥 meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Ffred Ffransis bod y sefyllfa bresennol "yn argyfwng"

Roedd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith yn un o鈥檙 rhai oedd yn rhan o鈥檙 trefniadau.

Fe ddisgrifiodd y sefyllfa bresennol fel 鈥渁rgyfwng鈥 gan ychwanegu bod 鈥渁ngen Deddf Eiddo i fynd at wraidd y broblem".

Dywedodd: 鈥淣id yw鈥檙 llywodraeth yn dangos unrhyw ymwybyddiaeth o鈥檙 argyfwng 鈥榙a ni ynddi.

"Mae鈥檙 rali yma yn cyd-fynd 芒 diwrnod Owain Glynd诺r ac mae鈥檙 awydd yna, yr awydd oedd efo鈥檔 tywysogion ond sydd bellach efo鈥檙 werin bobl i sicrhau rhyddid yn ein cymunedau ni yn gryf ac yn glir iawn.鈥

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r newidiadau i'r rheolau treth lleol ar gyfer llety hunanarlwyo ac ail gartrefi wedi'u cynllunio fel eu bod yn gallu datblygu marchnad dai decach a sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i鈥檙 cymunedau lle maent yn berchen ar gartrefi neu鈥檔 rhedeg busnesau.

鈥淏yddwn yn parhau i fonitro effeithiau鈥檙 ddeddfwriaeth hon i sicrhau ei bod yn cyflawni鈥檙 hyn a fwriadwyd.鈥