Â鶹ԼÅÄ

Sir Benfro: Nifer yr ail dai ar werth wedi treblu ers codi trethi

Dinbych-y-pysgod
  • Cyhoeddwyd

Mae'r nifer o ail dai sydd ar werth yn Sir Benfro wedi mwy na threblu ar ôl i'w treth cyngor gynyddu.

Yn ôl ystadegau newydd, roedd 135 ar y farchnad ym mis Gorffennaf, o'i gymharu â 38 yn yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Mae ymgyrchydd sydd am weld y farchnad dai yn cael ei ddiwygio wedi disgrifio'r ffigyrau fel rhai "calonogol".

Ond yn ôl un gwerthwr tai, mae talu rhagor o dreth cyngor wedi cael "effaith enfawr" ar berchnogion ail dai.

O dan reolau newydd, fe all cynghorau godi premiwm o hyd at 300% ar ben y lefel arferol i geisio mynd i'r afael â'r argyfwng tai.

Fe gyflwynodd Cyngor Sir Penfro y premiwm treth cyngor o 200% ar berchnogion ail dai ym mis Ebrill gan dreblu biliau.

Ond mae'n bosib osgoi talu'r premiwm am hyd at flwyddyn gan roi'r tÅ· ar y farchnad.

Ar 1 Gorffennaf eleni, roedd nifer yr ail dai ar werth yn y sir wedi cynyddu o 97 mewn blwyddyn - cynnydd o 255%.

Mae'r cyngor wedi cyhoeddi ffigyrau sy'n dangos bod nifer yr ail dai a llety hunan arlwyo wedi gostwng eleni o'i gymharu â 2023.

Dangosa'r ffigyrau fod:

  • Nifer yr ail dai wedi disgyn o 3,364 i 3,271 (gostyngiad o 2.7%)

  • Nifer y llety hunan arlwyo wedi disgyn o 2,621 i 2,425 (gostyngiad o 7.47%)

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna "anghyfiawnder mawr" yn y farchnad dai, meddai Hedd Ladd Lewis

Fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru, fel rhan o gytundeb cydweithio Llafur a Phlaid Cymru, y premiwm yn rhannol er mwyn ei gwneud yn haws i bobl leol allu fforddio prynu tai yn yr ardaloedd y cawson nhw eu magu.

Cafodd Hedd Ladd Lewis, sy'n ymgyrchydd dros ddiwygio'r farchnad dai, ei fagu yn Nhrefdraeth, Sir Benfro.

Mae tua 30% o'r eiddo yn y dref yn ail dai neu yn llety gwyliau.

Dywedodd Mr Lewis fod y cynnydd yn nifer yr ail dai sydd ar werth yn "galonogol", ond "dwi’n credu mai rhan o’r broblem yw hwnna oherwydd pwy sydd yn mynd i brynu’r tai yma?"

"Beth sydd gyda ni yw marchnad agored a dyw’r bobl leol sydd yn ennill cyflogau bach - ar gyfartaledd £28,000 y flwyddyn - dydyn nhw methu cystadlu ac felly mae yna ryw anghyfiawnder mawr o ran y farchnad dai.

"Yn sicr mae angen gweld ryw fath o ddeddf eiddo sydd yn mynd i sicrhau fod gan y gymuned leol hawl gyfreithiol i gartref."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r premiwm treth cyngor wedi effeithio ar y farchnad wyliau hefyd, yn ôl Neil Evans

Yn ôl Neil Evans, perchennog gwerthwyr tai West Wales Properties, mae'r premiwm treth cyngor wedi cael "effaith enfawr", yn enwedig mewn llefydd fel Tyddewi a Threfdraeth.

"Ry'n ni'n gweld tai yn dod ar y farchnad ar lefel nad ydw i wedi ei weld mewn 30 mlynedd," meddai.

"Fe allan nhw (perchnogion ail dai) brynu eiddo'r ochr arall i Afon Hafren a chael dim o hyn.

"Be ry'n ni'n ffeindio hefyd yn gyffredinol yw ei fod wedi effeithio'r farchnad wyliau."

Dywedodd y Cynghorydd Aled Thomas, Ceidwadwr lleol sy'n gwrthwynebu'r premiwm: "Mae twristiaid yn un o'r pethau sy'n dod â'r arian i'r economi ond mae dal pobl sydd yn mynd allan o fusnes achos y polisïau yma.

"Y peth i wneud yw adeiladu mwy o dai. Dim ond ryw 20/30 o dai sydd wedi cael eu hadeiladu gan y cyngor yn y 30 mlynedd diwethaf ac mae hwnna'n warthus.

"Os ni eisiau bod yn serious am gael mwy o dai i bobl leol a phrisiau tai yn dod lawr mae angen adeiladu mwy o dai."

Mae Cyngor Sir Benfro yn anghytuno â ffigyrau'r Cynghorydd Aled Thomas, gan ddweud eu bod wedi cwblhau dau ddatblygiad - cyfanswm o 44 o unedau - yn 2024/25.

Maen nhw'n dweud y bydd saith arall ar un o'r safleoedd hynny wedi'u cwblhau mewn ychydig fisoedd, a bod dau ddatblygiad - cyfanswm o 18 uned - ar y gweill i'w hagor yn 2025/26.

Pynciau cysylltiedig