鶹Լ

Non Parry: 'Paid â bod ofn gofyn' am awtistiaeth

Non Parry a'i merch KittyFfynhonnell y llun, Non Parry
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd merch Non Parry, Kitty ddiagnosis o awtistiaeth bedair blynedd yn ôl

  • Cyhoeddwyd

Mae Non Parry o'r grŵp Eden yn dweud bod "dal gymaint o gamddealltwriaeth o sut beth ydy o i fyw gyda awtistiaeth ac ADHD".

Ym mis Mawrth 2023, datgelodd y gantores bop bod ganddi awtistiaeth ar ôl i'w merch 15 oed, Kitty gael diagnosis ddwy flynedd cyn hynny.

Non ydy golygydd cyfrol newydd Dynol Iawn, sy'n rhannu profiadau 12 o bobl o awtistiaeth ac ADHD.

Dywedodd Non, sydd hefyd â nodweddion o ADHD, ei bod hi eisiau dangos "sut beth ydy o o ddydd i ddydd... achos dydi'r byd ddim yn le cyfforddus i bobl efo awtistiaeth neu ADHD".

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Dwi'n meddwl mai dim ond trwy ddangos i bobl yn y llyfr yma sut mae'n teimlo, falle nawn nhw ddeall y pethau bach allan nhw ofyn neu bethau bach allan nhw neud."

Ffynhonnell y llun, Non Parry
Disgrifiad o’r llun,

Mae Non yn dweud bod clywed am fywydau pobl eraill wedi bod yn "therapi" iddi

Yn 2021, ysgrifennodd Non gyfrol Paid â Bod Ofn, sy'n sôn am ei bywyd a'i hiechyd meddwl.

Yna cafodd gais gan Y Lolfa i siarad gyda phobl eraill sydd ag awtistiaeth ac ADHD, a thrafod ei phrofiadau hi ei hun.

"O'n i jyst yn rili gyffrous i rannu profiadau efo pobl a chlywed profiadau pobl eraill i helpu fi mewn ffordd - mae wedi bod yn therapi huge i fi i fod yn onest i weld popeth lawr mewn du a gwyn," meddai.

"O'n i wedi gwario oes yn meddwl mai jyst fi o'dd yn meddwl y ffordd yma, so mae o wedi bod yn rili emosiynol."

Mae Non yn gobeithio y bydd y gyfrol yn helpu pobl sy'n byw ag awtistiaeth ac ADHD ac y bydd yn gyfle i ddarllenwyr "gael deall yn union sut gallan nhw ystyried sut mae'n teimlo".

"'Da ni ddim wedi arfer siarad yn y Gymraeg am awtistiaeth ac ADHD felly mae'n gyfle amazing yn y llyfr i ddarllen ac i glywed am hynny.

"Falle bydd pobl yn dechrau adnabod mai fel'ma ma' nhw'n teimlo a heb 'neud y cysylltiad mewn iaith arall ond rŵan yn gweld y cysylltiad."

'Llawlyfr sy'n taflu goleuni'

Un sydd wedi cyfrannu at y gyfrol ydy’r gantores a'r cyflwynydd, Caryl Parry Jones sy’n trafod awtistiaeth ei mab, Moc.

Mae'n gobeithio y bydd y gyfrol "yn ein helpu ni i ddeall ein gilydd yn well".

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Roedd hi’n fraint cyfrannu at y gyfrol a 'ngobaith i yw bod yr hyn sy' tu mewn i’w chloriau yn taflu goleuni ar y cyflyrau hyn sydd wedi cael eu camddeall ers blynyddoedd mawr.

"Mewn byd lle 'dan ni o’r diwedd yn cofleidio gwahaniaeth, mae’n llawlyfr defnyddiol i’r rheiny sydd yn “niwrotypical” (beth bynnag ydy hynny erbyn hyn - ma' gan bawb ei hanes does?) ac yn gysur ac yn gefnogaeth i’r rheiny sydd wastad wedi teimlo’n wahanol a ddim cweit yn ffitio jig-sô cymhleth yr hen fyd 'ma."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Caryl Parry Jones a'i mab Moc

Ymhlith y bobl eraill sy'n rhannu eu profiadau ydy'r cantorion Mali Hâf a Bronwen Lewis, sydd ag ADHD.

Mae'r llyfr hefyd yn clywed gan rieni - gan gynnwys profiadau'r bardd Gruffudd Owen am ei fab sydd ag awtistiaeth, a Leian Roberts a'i mab wyth oed Twm, sydd â'r un cyflwr.

Mae Non Parry yn dweud bod "dal gymaint o gamddealltwriaeth o sut beth ydy o i fyw efo'r cyflwr".

"Mae pobl fel fi wedi gwario oes ac wedi cyrraedd 50 a meddwl bo' fi wedi torri ac yn meddwl bo' fi ddim yn gallu gweithio fel pobl eraill ac oherwydd camddiagnosis neu ddiffyg diagnosis wedi pigo fyny cyflyrau iechyd meddwl sydd wedi effeithio sut dwi'n gweithio, perthnasau efo pobl - mae o'n effeithio popeth."

'Mae'n gallu bod yn exhausting'

Mae Non yn dweud mai "dim ond rŵan mae pobl yn cael y sylw a'r gofal a rhyw fath o ddealltwriaeth, so o'n i rili isio pobl cael gweld sut beth ydy o o ddydd i ddydd i bobl".

"Dwi'n dod o'r ddwy ochr - mae gen i awtistiaeth a dwi'n gofalu ar ôl rhywun sydd gydag awtistiaeth - sy'n gallu bod yn exhausting a mae hynny yn y llyfr yma, pa mor anodd ydy o yn emosiynol ac yn gorfforol achos dydi'r byd ddim yn le cyfforddus i bobl efo awtistiaeth neu ADHD."

Mae'n dweud bod "pethau fel mynd allan am fwyd yn anodd" ac mae'n gobeithio y bydd darllenwyr yn gweld "realiti hynna ond hefyd pa mor brilliant a chryf a creadigol ydy pobl a'i fod o'n ffordd lyfli o weld y byd, mewn ffordd syml".

"Weithiau dwi jyst yn meddwl os 'sa ni'n gallu troi'r volume lawr mi fysa gymaint o bobl lot hapusach."

Ffynhonnell y llun, Caryl Parry Jones
Disgrifiad o’r llun,

Non Parry ydy golygydd cyfrol newydd Dynol Iawn

Mae Non yn pwysleisio "na ddylai pobl eraill fod ofn gofyn" i bobl sydd ag awtistiaeth a'u teuluoedd "be allan nhw wneud i wneud y byd yn fwy cyfforddus i ni".

"Fydd pawb yn 'nabod rhywun sydd ag awtistiaeth neu ADHD - 'da ni yn bobman - ond y cam nesa' ydy bod pobl yn gofyn sut allan nhw neud bywyd yn haws i ni.

"Dwi wedi weirio'n wahanol a does dim alla i 'neud a dim byd i'w drwsio... pethau o fy nghwmpas i sydd angen ei tweakio, dim fi - dim bai fi ydy hwn."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Non Parry yn adnabyddus fel aelod o grŵp pop Eden

Mae Non yn dweud ei bod hi'n gwerthfawrogi pan mae ei chyd-aelodau o'r band Eden - Emma a Rachael - yn gweld pan mae pethau'n mynd yn anodd iddi ac yn gofyn os ydy hi'n iawn.

Neges Non i eraill ydy: "Paid â bod ofn - jyst gofyn i bobl os ydyn nhw'n oce.

"Mae disgwyliadau mor huge ar bob un ohonan, ni a dwi'n gobeithio 'neith darllen y llyfr yma 'neud i unrhyw un feddwl i slofi lawr bach a troi'r volume a'r cyflymder lawr 'chydig bach."