Ail Ryfel Byd: Cofio damwain awyren ar y Preselau

Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Aviation Group

Disgrifiad o'r llun, Bu farw chwech allan o'r wyth criw yma yn 1944
  • Awdur, Sara Dafydd
  • Swydd, Newyddion 麻豆约拍 Cymru

Ar 19 Medi 1944 fe glywodd trigolion Mynachlog-ddu s诺n byddarol damwain awyren o gyfeiriad y Preselau.

Fe darodd awyren fomio y Liberator, a oedd wedi'i lleoli yng Nghernyw, yn erbyn y bryniau gerllaw.

Bu farw chwech o filwyr yr Awyrlu a chafodd tri eu hanafu.

80 mlynedd ers y digwyddiad mae pobl leol wedi bod yn cerdded i safle'r ddamwain i gofio'r dioddefwyr.

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍 Cymru

Disgrifiad o'r llun, Malcolm Cullen (chwith) a John Evans yw sefydlwyr y Pembrokeshire Aviation Group

Cafodd y Pembrokeshire Aviation Group ei sefydlu 40 mlynedd yn 么l i gofio鈥檙 digwyddiad ac i drefnu plac ar safle鈥檙 ddamwain.

鈥淩ydym yn falch ein bod wedi gallu gosod cofeb yma 40 mlynedd yn 么l. Gall cerddwyr ddod ar draws hyn, i fyfyrio ar yr enwau a gweld bod rhywbeth erchyll wedi digwydd yma,鈥 medd John Evans, sefydlydd y gr诺p.

Ychwanegodd: 鈥淲rth i鈥檙 blynyddoedd fynd yn eu blaenau a鈥檙 Ail Ryfel Byd yn diflannu i'r llyfrau hanes mae鈥檔 bwysig bod gennym ni bethau fel hyn yma.鈥

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍 Cymru

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Hefin Wyn mae鈥檙 digwyddiad yn rhan o 鈥済of gwerin yr ardal鈥

Yn 么l Hefin Wyn, hanesydd lleol, mae鈥檙 digwyddiad yn rhan o 鈥済of gwerin yr ardal鈥.

鈥淢ae rhai pobl leol yn cofio bod hi鈥檔 noson ffair Maenclochog ac wrth i rai ohonyn nhw fynd adref am 11 o鈥檙 gloch dyma nhw鈥檔 gweld pelen mawr o d芒n yn dod o鈥檙 mynydd.

鈥淢ae鈥檔 syndod wrth edrych lawr fan hyn does dim eithin grug, porfa na dim byd wedi tyfu lle glaniodd yr awyren,鈥 meddai.

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍 Cymru

Disgrifiad o'r llun, Cafodd gwasanaeth ei gynnal ar safle'r ddamwain ddydd Iau

Mae鈥檔 debyg pe bai'r awyren wedi bod yn hedfan ychydig droedfeddi'n uwch y byddai'r ddamwain wedi ei hosgoi.

Doedd y criw, o dan arweiniad Stan Kearney yn St Eval yng Nghernyw, ddim ar ddyletswydd y diwrnod hwnnw ond fe gawson nhw gynnig llong danfor ar gyfer ymarfer.

Doedd dim modd defnyddio鈥檙 llong danfor ac felly fe benderfynon nhw hedfan yr awyren EV881.

Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Aviation Group

Disgrifiad o'r llun, Fe blymiodd yr awyren EV881 i Garn Bica

Aeth holl aelodau'r criw ar yr awyren ar fyr rybudd, gan adael un - Danny Quinn - ar 么l drwy gamgymeriad.

Flynyddoedd wedyn, soniodd Quinn am ei euogrwydd gan ddweud: "Y bore wedyn sylweddolais nad oedd y criw wedi dychwelyd ac ro'n i methu deall beth oedd wedi digwydd.

"Wedyn dyma ffrind yn dweud wrthai bod criw Stan Kearey wedi cael damwain ym mryniau Cymru."

Roedd y Swyddog Gwarant, Stan Kearney, wedi priodi dair wythnos ynghynt.

Mae rhai o鈥檙 criw wedi鈥檜 claddu ym Mynwent City Road yn Hwlffordd, gan gynnwys y Swyddog Gwarant, Billy Soroski; y Rhingyll John Duncan Boyd o Ganada, a dau o griw鈥檙 Awyrlu - y Rhingyll Hedfan Robert Evans a鈥檙 Rhingyll Albert Humphries.

Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Aviation Group

Disgrifiad o'r llun, Yn 19 oed Albert Humphries oedd yr ieuengaf o鈥檙 criw

Ar y pryd nododd cofnodion mis Medi llyfr y sgwadron: "Am tua 22:50 o鈥檙 gloch ar Fedi 19, yn ystod oriau鈥檙 nos hedfanodd awyrennau EV881, dan arweiniad W/O Kearey, i gopa bryn 4 milltir i鈥檙 gogledd ddwyrain o Faenclochog, De Cymru.

"Aeth yr a/c ar d芒n a lladdwyd W/O Kearey a phedwar o'r criw; bu farw un arall yn yr ysbyty a chafodd y tri arall eu hanafu a'u cadw yn yr ysbyty.

"Credir mai camgymeriad mordwyo oedd achos y ddamwain wrth i'r criw gael eu briffio i fynd ymlaen i ymarfer 'Oasthouse' trwy'r Smalls Light'."