Â鶹ԼÅÄ

Heddlu yn ffrwydro bom o'r Ail Ryfel Byd ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
Caeau BrwaisFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bom ei ffrwydro'n ddiogel ar Gaeau Briwas, Bangor

Cafodd dyfais ffrwydrol o gyfnod yr Ail Ryfel Byd ei chludo i orsaf heddlu ym Mangor cyn iddi gael ei dinistrio'n ddiogel.

Fe gyflwynodd aelod o'r cyhoedd y ddyfais i orsaf heddlu'r ddinas ddydd Mawrth.

Roedd y person wedi dod o hyn i'r mortar yng Nghoed y Wenallt yn Nant Gwynant.

Dywedodd y Rhingyll Emma Williams: "Brynhawn ddoe [Mawrth], fe ddaeth aelod o'r cyhoedd a oedd yn cerdded yng Nghoed y Wenallt, Nant Gwynant o hyd i'r hyn, mae'n debyg, oedd yn fom mortar o'r Ail Ryfel Byd ac fe'i cludwyd i orsaf heddlu Bangor.

"Cafodd arbenigwyr eu galw, ac fe ddaethon nhw'r bore 'ma i'w ffrwydro'n ddiogel ar Gaeau Briwas, Bangor."