鶹Լ

Ail Ryfel Byd: Cofio damwain awyren ar y Preselau

Criw Stan Kearney bu farw yn 1944Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Aviation Group
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw chwech allan o'r wyth criw yma yn 1944

  • Cyhoeddwyd

Ar 19 Medi 1944 fe glywodd trigolion Mynachlog-ddu sŵn byddarol damwain awyren o gyfeiriad y Preselau.

Fe darodd awyren fomio y Liberator, a oedd wedi'i lleoli yng Nghernyw, yn erbyn y bryniau gerllaw.

Bu farw chwech o filwyr yr Awyrlu a chafodd tri eu hanafu.

80 mlynedd ers y digwyddiad mae pobl leol wedi bod yn cerdded i safle'r ddamwain i gofio'r dioddefwyr.

Ffynhonnell y llun, 鶹Լ Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Malcolm Cullen (chwith) a John Evans yw sefydlwyr y Pembrokeshire Aviation Group

Cafodd y Pembrokeshire Aviation Group ei sefydlu 40 mlynedd yn ôl i gofio’r digwyddiad ac i drefnu plac ar safle’r ddamwain.

“Rydym yn falch ein bod wedi gallu gosod cofeb yma 40 mlynedd yn ôl. Gall cerddwyr ddod ar draws hyn, i fyfyrio ar yr enwau a gweld bod rhywbeth erchyll wedi digwydd yma,” medd John Evans, sefydlydd y grŵp.

Ychwanegodd: “Wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaenau a’r Ail Ryfel Byd yn diflannu i'r llyfrau hanes mae’n bwysig bod gennym ni bethau fel hyn yma.”

Ffynhonnell y llun, 鶹Լ Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Hefin Wyn mae’r digwyddiad yn rhan o “gof gwerin yr ardal”

Yn ôl Hefin Wyn, hanesydd lleol, mae’r digwyddiad yn rhan o “gof gwerin yr ardal”.

“Mae rhai pobl leol yn cofio bod hi’n noson ffair Maenclochog ac wrth i rai ohonyn nhw fynd adref am 11 o’r gloch dyma nhw’n gweld pelen mawr o dân yn dod o’r mynydd.

“Mae’n syndod wrth edrych lawr fan hyn does dim eithin grug, porfa na dim byd wedi tyfu lle glaniodd yr awyren,” meddai.

Ffynhonnell y llun, 鶹Լ Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwasanaeth ei gynnal ar safle'r ddamwain ddydd Iau

Mae’n debyg pe bai'r awyren wedi bod yn hedfan ychydig droedfeddi'n uwch y byddai'r ddamwain wedi ei hosgoi.

Doedd y criw, o dan arweiniad Stan Kearney yn St Eval yng Nghernyw, ddim ar ddyletswydd y diwrnod hwnnw ond fe gawson nhw gynnig llong danfor ar gyfer ymarfer.

Doedd dim modd defnyddio’r llong danfor ac felly fe benderfynon nhw hedfan yr awyren EV881.

Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Aviation Group
Disgrifiad o’r llun,

Fe blymiodd yr awyren EV881 i Garn Bica

Aeth holl aelodau'r criw ar yr awyren ar fyr rybudd, gan adael un - Danny Quinn - ar ôl drwy gamgymeriad.

Flynyddoedd wedyn, soniodd Quinn am ei euogrwydd gan ddweud: "Y bore wedyn sylweddolais nad oedd y criw wedi dychwelyd ac ro'n i methu deall beth oedd wedi digwydd.

"Wedyn dyma ffrind yn dweud wrthai bod criw Stan Kearey wedi cael damwain ym mryniau Cymru."

Roedd y Swyddog Gwarant, Stan Kearney, wedi priodi dair wythnos ynghynt.

Mae rhai o’r criw wedi’u claddu ym Mynwent City Road yn Hwlffordd, gan gynnwys y Swyddog Gwarant, Billy Soroski; y Rhingyll John Duncan Boyd o Ganada, a dau o griw’r Awyrlu - y Rhingyll Hedfan Robert Evans a’r Rhingyll Albert Humphries.

Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Aviation Group
Disgrifiad o’r llun,

Yn 19 oed Albert Humphries oedd yr ieuengaf o’r criw

Ar y pryd nododd cofnodion mis Medi llyfr y sgwadron: "Am tua 22:50 o’r gloch ar Fedi 19, yn ystod oriau’r nos hedfanodd awyrennau EV881, dan arweiniad W/O Kearey, i gopa bryn 4 milltir i’r gogledd ddwyrain o Faenclochog, De Cymru.

"Aeth yr a/c ar dân a lladdwyd W/O Kearey a phedwar o'r criw; bu farw un arall yn yr ysbyty a chafodd y tri arall eu hanafu a'u cadw yn yr ysbyty.

"Credir mai camgymeriad mordwyo oedd achos y ddamwain wrth i'r criw gael eu briffio i fynd ymlaen i ymarfer 'Oasthouse' trwy'r Smalls Light'."

Pynciau cysylltiedig