Ffrae 20mya: AS 'wedi torri cod ymddygiad y Senedd'

Ffynhonnell y llun, Senedd

Disgrifiad o'r llun, Mae Natasha Asghar wedi bod yn Aelod o鈥檙 Senedd dros Ddwyrain De Cymru ers 2021

Cytunodd gwleidydd Tor茂aidd Cymreig ar adroddiad am ymddygiad ei harweinydd er gwaetha'r ffaith iddi fod yn destun dau g诺yn am yr un mater.

Methodd Natasha Asghar 芒 chamu o鈥檙 neilltu oherwydd gwrthdaro buddiannau o bwyllgor safonau鈥檙 Senedd ym mis Ionawr pan benderfynodd y pwyllgor glirio Andrew RT Davies am ddweud bod y polisi 20mya yn gyfyngiad cyflymder "blanced", hynny yw, cyffredinol.

Parhaodd i ddefnyddio鈥檙 term ei hun, er gwaethaf cytuno ar adroddiad y pwyllgor a oedd yn gofyn i aelodau o鈥檙 Senedd beidio 芒 gwneud sylwadau 鈥渁nghywir鈥 o鈥檙 fath.

Dywedodd y Comisiynydd Safonau, Douglas Bain, fod Asghar wedi dwyn anfri ar y Senedd, ond dywedodd Asghar ei bod yn destun "helfa wrachod" a mynnodd ei fod yn derfyn "blanced".

Cytunodd pwyllgor safonau'r Senedd 芒 Mr Bain fod aelod o'r Senedd Dwyrain De Cymru wedi torri cod ymddygiad Senedd Cymru.

Mae Asghar yn debygol o gael ei cheryddu gan y Senedd yn dilyn argymhelliad gan y pwyllgor.

Cafwyd yr ymchwiliad ar 么l i Aelod o'r Senedd Llafur a鈥檙 cyn weinidog trafnidiaeth Lee Waters, oedd ar flaen y gad gyda鈥檙 polisi 20mya pan gafodd ei lansio flwyddyn yn 么l, gwyno.

Nid yw hi bellach yn aelod o鈥檙 pwyllgor, ar 么l i Sam Kurtz gymryd ei lle ym mis Gorffennaf.

'Anghywir yn fwriadol'

Ym mis Hydref 2023 roedd Mr Bain yn archwilio cwyn am Asghar ynghylch ei disgrifiad o'r terfyn fel un "blanced".

Dywedwyd wrthi bryd hynny fod ystyriaeth Mr Bain o鈥檙 g诺yn wedi鈥檌 gohirio tra鈥檌 fod yn ystyried 鈥渃wyn debyg iawn鈥 am gyfres o negeseuon cyfryngau cymdeithasol ar X, a wnaed gan aelod o鈥檙 Senedd, sydd heb ei enwi ond deellir mai arweinydd y Tor茂aid yn y Senedd, Andrew RT Davies, ydyw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu鈥檙 disgrifiad ers tro, gan ei alw鈥檔 ffug oherwydd bod cynghorau鈥檔 gallu gosod gwaharddiadau ar rai ffyrdd.

Yn yr adroddiad gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr canfu Mr Bain nad oedd y term "blanced", er yn anghywir, yn gelwyddog a bod gan Mr Davies amddiffyniad o dan gyfraith hawliau dynol.

Cytunodd adroddiad y pwyllgor ar y mater i beidio 芒 gosod sancsiwn, ond dywedodd y dylai gwleidyddion 鈥渙falu i beidio 芒 gwneud datganiadau anfanwl ac anghywir yn fwriadol鈥.

Roedd Asghar yn aelod o鈥檙 pwyllgor ar y pryd ac roedd yn bresennol ar gyfer ei holl drafodaethau ar y pwnc.

Ond ar 么l i adroddiad mis Ionawr gael ei gyhoeddi, cyfeiriodd Asghar at 20mya fel terfyn cyflymder 鈥渂lanced鈥 ar gyfryngau cymdeithasol. Gwnaeth hynny eto mewn fideo.

Cwynodd Waters ar 18 Ebrill fod Asghar wedi defnyddio'r term mewn trafodaeth yn y Senedd - lle dywedodd y dylai'r gweinidog "oddef" ei disgrifiad oherwydd canfyddiadau'r pwyllgor safonau.

Disgrifiad o'r llun, Cafwyd yr ymchwiliad ar 么l i Lee Waters gwyno

Yn ei gasgliadau, dywedodd Mr Bain ei fod wedi cael ei dderbyn gan Asghar ei bod yn ymwybodol bod y pwyllgor safonau wedi gofyn i aelodau鈥檙 Senedd 鈥渇od yn ofalus i beidio 芒 gwneud datganiadau sy鈥檔 anfanwl ac yn anghywir yn fwriadol鈥.

Yn ei adroddiad, ychwanegodd y comisiynydd fod "yr aelod i bob pwrpas yn dweud un peth ac yn gwneud y gwrthwyneb".

Cytunodd aelodau鈥檙 pwyllgor safonau 芒鈥檙 comisiynydd, ac atgoffwyd Aelodau o鈥檙 Senedd ei bod yn ddyletswydd ar yr aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau perthnasol.

Bydd argymhelliad y pwyllgor ar gyfer cerydd yn cael ei drosglwyddo i鈥檙 Senedd i鈥檞 gymeradwyo.

Dywedodd Asghar: 鈥淣id wyf yn ymddiheuro o gwbl am sefyll i fyny a siarad ar ran fy etholwyr, a鈥檙 rhai ymhellach i ffwrdd, sydd wedi cael llond bol o bolisi terfyn cyflymder 20mya Llafur."

Dywedodd Waters: 鈥淢ae safonau鈥檔 bwysig, ac mae鈥檙 gwir yn bwysig. Rwy鈥檔 falch bod y Comisiynydd a鈥檙 Pwyllgor Safonau yn sefyll dros y ddau beth hyn."