麻豆约拍

Gweithredu deddf 20mya wedi 'creu problemau' medd Eluned Morgan

20 myaFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae鈥檙 Prif Weinidog Eluned Morgan wedi cyfaddef bod gweithredu deddf 20mya Cymru wedi creu problemau.

Roedd yn un o bolis茂au blaenllaw鈥檙 cyn-brif weinidog Mark Drakeford, ond mae adolygiad o鈥檙 canllawiau ar y gweill ar 么l i filoedd o bobl arwyddo deiseb yn galw am ei ddileu.

Wrth siarad 芒 phodlediad Newscast y 麻豆约拍, amddiffynnodd Eluned Morgan hefyd y cynnydd yn nifer yr Aelodau Seneddol o 60 i 96 ar gyfer etholiad 2026.

Dywedodd ei bod yn dod i'r pwynt pe bai AS yn gadael cyfarfod pwyllgor i fynd i'r t欧 bach, yna nid oedd digon o aelodau'r pwyllgor yn dal i fod yn bresennol i'r trafodion fod yn ddilys.

'Gwrando'

Gellir dadlau mai鈥檙 gyfraith terfyn cyflymder, a ddaeth i rym ym mis Medi 2023, yw鈥檙 un fwyaf dadleuol ers dechrau datganoli 25 mlynedd yn 么l.

Mae鈥檔 golygu mai 20mya yn hytrach na 30mya yw鈥檙 terfyn cyflymder rhagosodedig mewn ardaloedd adeiledig, gyda chynghorau lleol yn gallu gwneud eithriadau yn seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru.

Mae wedi arwain at ymateb cyhoeddus sylweddol gyda deiseb o ychydig llai na hanner miliwn o lofnodion ac arwyddion ffyrdd yn cael eu difrodi.

Ond mae ffigyrau diweddar yn awgrymu bod anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya wedi gostwng o draean yn chwarter olaf y llynedd.

Dywedodd Eluned Morgan fod polisi 20 mya wedi codi鈥檔 rheolaidd yn ystod ei 鈥榟ymarfer gwrando鈥 yn ystod yr haf, pan fu鈥檔 siarad 芒 phleidleiswyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Rydyn ni鈥檔 adolygu鈥檙 canllawiau" ynghylch 20mya meddai Eluned Morgan

Mae cynghorau lleol ar hyn o bryd yn ystyried pa newidiadau 鈥 os o gwbl 鈥 i鈥檞 gwneud i derfynau cyflymder yn eu hardal ar 么l gofyn i鈥檙 cyhoedd am eu barn.

Gofynnodd Golygydd Gwleidyddol y 麻豆约拍, Chris Mason, a oedd yr adolygiad o鈥檙 canllawiau yn gydnabyddiaeth bod y llywodraeth wedi mynd yn rhy bell.

鈥淩wy鈥檔 meddwl bod yn rhaid i chi ddod 芒 phobl gyda chi,鈥 atebodd Eluned Morgan.

鈥淥s ydych chi'n gorfodi gormod heb fraenaru'r tir yna yn amlwg mae hynny'n mynd i greu problem ac fe greodd broblem. Mae鈥檔 rhaid i ni gydnabod hynny.

鈥淢ae'n rhaid i ni gael ailosodiad, mae'n rhaid i ni gael yr adolygiad hwnnw ac rydych chi'n gwybod yn llythrennol bod cannoedd o bobl wedi ysgrifennu at eu cyngor lleol yn dweud 'beth am newid y ffordd hon yn 么l', felly fe gawn ni weld ble mae'r cynghorau hynny'n meddwl am eithriadau.

鈥淩ydyn ni鈥檔 adolygu鈥檙 canllawiau. Roedd cyfleoedd i gynghorau wneud eithriadau a manteisiodd rhai cynghorau ar y cyfle hwnnw a rhoi llawer o eithriadau ar waith.

鈥淎c yn yr ardaloedd hynny dyw鈥檙 anfodlonrwydd ddim mor fawr. Mae cynghorau eraill yn dweud y byddan nhw'n yn edrych ar yr eithriadau hynny eto.

鈥淥nd yn gyffredinol o amgylch ysgolion, o amgylch ysbytai ac o amgylch meysydd chwarae mae pobl eisiau cadw鈥檙 20mya hwnnw鈥.

Amddiffynnodd Eluned Morgan hefyd y cynnydd ym maint y Senedd o 60 i 96 o aelodau seneddol.

鈥淩ydyn ni newydd gael gostyngiad yn nifer yr ASau yn San Steffan 鈥 nifer nad yw'n ansylweddol, rydw i鈥檔 prysuro i ychwanegu,鈥 meddai.

鈥淢ae鈥檙 cyhoedd yn amlwg yn bryderus pan fyddan nhw鈥檔 gweld mwy o wleidyddion, ond mae tystiolaeth dda os oes gennych chi well craffu y gallwch chi ddwyn pobol i gyfrif yn well a bod yr adnoddau鈥檔 cael eu dyrannu鈥檔 well.鈥

Ychwanegodd: 鈥淩oeddem yn llythrennol yn cyrraedd y pwynt lle na allem redeg pwyllgorau. Pe bai rhywun yn mynd i'r t欧 bach yna nid oedd gan y pwyllgor gworwm [nid oedd digon o aelodau'n bresennol i'r trafodion fod yn ddilys].

"Ni allwch redeg Senedd yn y ffordd honno.鈥

Bydd system bleidleisio newydd Cymru yn defnyddio cynrychiolaeth gyfrannol 鈥 lle mae seddi鈥檔 cael eu hennill ar sail canran o bleidleisiau yn hytrach na'r cyntaf i鈥檙 felin.

Mae gan y system bresennol gymysgedd o'r ddau.

Mae'r cynlluniau newydd yn agor y ffordd i bleidiau fel Reform UK ennill mwy o seddi.

Dywedodd Eluned Morgan fod ei phlaid yn cymryd y bleidlais i Reform yn 鈥渄difrifol iawn鈥 gan ei disgrifio fel 鈥渉er鈥.

Ni enillodd Reform sedd Gymreig yn yr Etholiad Cyffredinol diweddar i San Steffan, er iddynt ddod yn ail mewn 13 o 32 sedd Cymru, ond byddai eu cyfran o 16.9% o鈥檙 bleidlais yn fwy na digon i ennill seddi yn system newydd y Senedd.

Ynghylch datganoli pwerau pellach o San Steffan i鈥檙 Senedd dywedodd Ms Morgan mai鈥檙 鈥減eth pwysicaf鈥 iddi oedd cyflawni 鈥測n well鈥 ar yr hyn yr oedd ei llywodraeth eisoes yn gyfrifol amdano.

Ymhlith pethau eraill, Llywodraeth Cymru sy'n rheoli'r GIG, addysg a materion gwledig.

Dywedodd wrth y podlediad ei fod yn 鈥済wneud synnwyr鈥 i gyfiawnder ieuenctid a鈥檙 gwasanaeth prawf gael eu datganoli i Gymru.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod gweinidogion Llafur wedi "mwy neu lei cyfaddef nad yw'r polisi yma bod yn llwyddiannus, ond dydyn nhw ddim yn fodlon cael gwared ohono.

"Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn dileu'r polisi ac yn cadw terfynau 20mya mewn mannau lle mae 'na wir angen amdanyn nhw, fel y tu allan i ysgolion."